Senedd yn gwahardd aelod am 42 diwrnod am 'gyffwrdd amhriodol'
Mae Aelod o'r Senedd sydd wedi ei wahardd am gyffwrdd dwy ferch yn amhriodol a rhegi wedi ymddiheuro am ei ymddygiad, ond mae wedi beirniadu'r broses o ddelio gyda'r mater.
Cafodd gwaharddiad o 42 diwrnod i Rhys ab Owen ei gadarnhau gan y Senedd ddydd Mercher.
Dywedodd Mr ab Owen wrth y Senedd ei fod yn dymuno ymddiheuro.
Roedd yn agos i ddagrau tra'n diolch i'w wraig a'i deulu am eu cefnogaeth, gan ddweud ei fod wedi gwneud "newidiadau personol sylweddol."
"Roedd fy ymddygiad ar y noson yna ymhell islaw y safon sydd i'w ddisgwyl gan swyddog cyhoeddus." meddai.
"Cefais i ormod i yfed y noson honno a fe wnes i ymddwyn yn wael.
"Rwy'n cymryd cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad yna.
Dywedodd ei fod yn derbyn y gosb ond fod ganddo amheuon am y modd y gwnaed y penderfyniad, a'r ffaith ei fod wedi cymryd gymaint o amser. Roedd ganddo hefyd amheuon am dryloywder y broses, meddai.
Ychwanegodd nad oedd modd iddo herio'r broses ar wahan i adolygiad barnwrol, fyddai'n eithriadol o ddrud.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor safonau'r Senedd, Vikky Howells AS :"Dyma'r gwaharddiad hiraf hyd yma i gael ei gynnig gan y pwyllgor safonau a mae'n adlewyrchu difrifoldeb y ffordd y cafodd y cod ymddygiad ei dorri.
Dywedodd ei bod hi eisiau canmol dewrder yr achwynydd.
"Rhaid i'r Senedd fod yn fan gwaith diogel a chynhwysol lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal," meddai.
Mae Rhys ab Owen wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol o'r Senedd, wedi iddo gael ei wahardd gan Blaid Cymru.