Newyddion S4C

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau Tir na n-Og 2024

13/03/2024

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau Tir na n-Og 2024

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer gwobrau llenyddiaeth Tir na n-Og 2024.

Jac a’r Angel gan Daf James, Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, Y Gragen gan Casia Wiliam ac Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts  gafodd eu henwi ar restr fer y categori cynradd nos Fercher.

Ac fe gafodd Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter, Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis a Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam eu henwi ar restr fer y categori uwchradd.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru, a mae nhw'n cael  eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru.

Gyda dau gategori o lyfrau Cymraeg, sef llyfrau Cymraeg oedran ysgol gynradd (4–11) a llyfrau Cymraeg oedran ysgol uwchradd (11–18), bwriad y gwobrau yw anrhydeddu a dathlu’r awduron sydd a’r deunyddiau darllen “gorau” i blant trwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Ffodus iawn’

Dywedodd Sioned Dafydd, cadeirydd y panel beirniaid, bod “cytundeb ymysg y panel” fod plant Cymru yn “ffodus iawn” o gael y fath ystod o lyfrau.

“Credwn fod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a’i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod,” meddai.  

Yn ymuno â Sioned Dafydd ar y panel nofelau Cymraeg eleni mae Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych.”

Bydd enillwyr y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi am 13.00 ddydd Mercher, 29 Mai, ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod.

Bydd y rhestr fer ar gyfer y categori Saesneg bellach yn cael ei chyhoeddi gan Ellis Lloyd Jones a’r Cyngor Llyfrau am hanner dydd, ddydd Gwener 15 Mawrth ar eu cyfryngau cymdeithasol, ac mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Gwener, 17 Mai, yng nghynhadledd CILIP Cymru yng Nghaerdydd.

Mi fydd cyfle unwaith eto eleni i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr - tlws arbennig i lyfrau a gafodd eu dewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og.

Y Rhestr Fer

Isod, mae rhagor o fanylion ynglŷn â’r llyfrau sydd wedi cyrraedd rhestrau byr Cymraeg Tir na n-Og eleni. 

Rhestr Fer y Categori Gynradd

Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)

Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori ‘dod i oed’ y bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)

Mae Mari’n mynd â mins peis at Mrs Cloch drws nesa ar Noswyl Nadolig – hen ddynes fach unig, nad oed neb byth yn galw i’w gweld, yw Mrs Cloch. Mae Mari yn ei helpu i addurno’r goeden Nadolig ag addurniadau o bob cwr o’r byd, ac mae ymwelydd annisgwyl iawn yn galw yn y tŷ ...

Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)

Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae e’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll; mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam. Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd ysgytwol sy’n newid cwrs ei fywyd am byth.

Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)

Dyma stori mewn mydr ac odl am blentyn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un.

Rhestr Fer y Categori Uwchradd

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)

Llyfr gwybodaeth i ferched am dyfu i fyny. Mae pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, gan cynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff a Ffrindiau.

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Stori am Leia a Sam yw hon, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu llwybrau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae’r stori’n dechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.