Nifer o Gymry yn gorymdeithio i gofio 40 mlynedd ers streic y glowyr
Nifer o Gymry yn gorymdeithio i gofio 40 mlynedd ers streic y glowyr
Roedd nifer wedi teithio o Gymru i ymuno ar yr orymdaith yn Durham i gofio 40 mlynedd ers y streic a rhan allweddol menywod yn y frwydr yn erbyn cau pyllau.
Wrth i'r dynion ac undeb yr NUM ymladd, roedd menywod wrth eu hochr. Roedden nhw'n poeni am ddyfodol eu cymunedau ac yn ymgyrchu ar y llinellau piced.
"O'n i'n ofnus iawn fel mam, fel gwraig, fel person oedd â pharch a ffydd yn y gymdeithas, beth oedd i ddod."
"O'n i'n edmygu y menywod oedd yn mynd ar y picket line achos o'n nhw'n rhywbeth arall. O'n nhw'n gadarn a ddim yn ofni dim byd."
Gyda'r dynion ar streic, doedd dim arian. Sefydlwyd y grwp cefnogi cyntaf ym maes glo y de ym Maerdy i helpu i drefnu bwyd, a thalu biliau. Menywod o Faerdy sefydlodd y grwp cyntaf o fenywod i gefnogi'r glowyr.
Roedd eu cyfraniad yn allweddol. Cyn hir, roedd menywod ar hyd a lled y maes glo wedi dilyn eu hesiampl. Roedd help yn cyrraedd o ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog i'r glowyr a menywod pentrefi tebyg i Waun-Cae-Gurwen yn Nyffryn Aman yn aros i geir fel y rhain gyrraedd a nwyddau angenrheidiol.
"O'n i'n rhannu'r bwyd o'r neuadd yng Nghwmgors ac edrych am archfarchnad oedd yn fodlon rhoi discounts. Dim ond Normans Cash and Carry oedd yn fodlon gwneud 'na felly o'n i'n siopa yn Normans Cash and Carry.
"O wythnos i wythnos, corned beef a baked beans o'n i'n gallu fforddio."
Ond er y caledi, roedd menywod fel Sian James yn benderfynol o ymladd.
"Mae 'ngwr wedi bod mas am wyth mis a fi 'di bod tu ôl e bob cam. Beth oedd yn ymrwymo ni gyd at ein gilydd oedd bod ni'n ymladd, nid dros arian ac oriau, o'n ni'n ymladd dros swyddi'n gwyr, y gymdeithas a neud yn sicr bod gobaith i'n cymdeithasau ar ôl i'r pyllau gau."
I lawer o'r menywod fu ar flaen y gad, er iddyn nhw golli'r frwydr roedd y streic wedi achosi chwyldro fyddai'n dylanwadu ar eu bywydau a'u cymunedau am flynyddoedd i ddod.