Bachgen 16 oed wedi marw mewn damwain yn Sir Benfro
Mae bachgen 16 oed wedi marw mewn damwain yn Sir Benfro ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i gyfeiriad yn ardal Clunderwen, wedi adroddiadau o ddigwyddiad mewn eiddo preifat brynhawn Mawrth.
Bu farw Llŷr Davies, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Bro Teifi, yn y fan a'r lle yn ystod y digwyddiad yn Efailwen.
Mae ei deulu agos wedi cael gwybod.
Ychwanegodd y llu fod y crwner wedi cael gwybod ac yn sgil natur y digwyddiad, mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch hefyd wedi cael gwybod.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn: "Newyddion hynod o drist ddoe bod un o'n chwaraewyr Dan16 wedi colli ei fywyd mewn damwain.
"Roedd Llŷr Davies yn fachgen hoffus ac yn ffrind i bawb. Mae'r clwb yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'r teulu a'i holl ffrindiau."
Inline Tweet: https://twitter.com/ClwbRygbiCNE/status/1767824681862639821?s=20
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi, eu bod nhw'n "hynod drist" i glywed y newyddion.
"Hoffwn ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu ar yr amser trist ac anodd hwn," meddai.
"Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'n staff a'n disgyblion dros y dyddiau nesaf."