Newyddion S4C

Ymchwilwyr wedi dod o hyd i weddillion llong dros 100 oed

13/03/2024
Ymchwil mor

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi bod yn rhan o brosiect sydd wedi dod o hyd i weddillion llong gargo sydd wedi bod ar goll ers dros 100 mlynedd.

Cafodd yr SS Hartdale ei tharo gan dorpido o un o longau tanfor yr Almaen ar 13 Mawrth 1915.

Mae ei gweddillion bellach wedi ei hadnabod yn gorwedd ar ddyfnder o 80 metr, 12 milltir oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.

Adeiladwyd yr SS Hartdale yn Stockton-on-Tees ym 1910 ac roedd yn cludo glo o'r Alban i'r Aifft, pan gafodd ei suddo gan dorpido.

Collodd dau o’r criw eu bywydau wrth i’r llong suddo.

Roedd cofnodion hanesyddol a data sonar aml-belydr o longddrylliadau eraill ym Mor Iwerddon yn hollbwysig i'r ymchwilwyr allu canfod union leoliad y llong. 

Roedd y tîm o'r brifysgol yn rhan o brosiect Unpath'd Waters sy’n cael ei arwain gan Historic England.

Dywedodd yr ymchwilwyr bod y fenter hon yn galluogi gwyddonwyr a haneswyr i gyfuno data morol gyda chofnodion morwrol mewn ffyrdd "newydd ac unigryw". Bydd modd adnabod llongddrylliadau yn y môr o amgylch y Deyrnas Unedig, asesu eu cyflwr a rhagweld sut y bydd y safleoedd hynny’n newid dros amser.    

Mae Dr Michael Roberts a oedd yn arwain tîm Bangor yn gobeithio mai’r darganfyddiad cychwynnol hwn fydd y cyntaf o lawer.

“Mae cysylltu data gwyddonol â chofnodion morwrol amrywiol ond llawn gwybodaeth wedi ein galluogi i adnabod llongddrylliad na wyddem amdano cyn hyn, i greu naratif cynhwysfawr a manwl sy’n canolbwyntio ar y llong fel yr oedd ac i wella ein dealltwriaeth o archaeoleg forwrol y Deyrnas Unedig," meddai. 

"Dim ond un yw hon o blith y miloedd lawer o longau masnach y gwyddom eu bod wedi’u suddo yn nyfroedd y Deyrnas Unedig ac sy’n parhau i fod wedi’u rhestru fel llongau coll neu sydd wedi’u hadnabod yn anghywir oherwydd diffyg data o ansawdd uchel. 

"Yn sicr mae gennym bellach y gallu a’r dechnoleg i allu unioni’r cam hwnnw sydd wedi cael ei anwybyddu’r rhy hir.”  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.