Teyrngedau i'r cerddor Karl Wallinger o Brestatyn sydd wedi marw'n 66 oed
Mae’r cerddor Karl Wallinger, oedd yn aelod o'r grwpiau The Waterboys a World Party, wedi marw yn 66 oed.
Bu farw’r Cymro, o Brestatyn yn Sir Ddinbych, ddydd Sul.
Sefydlodd Wallinger ei grŵp World Party yn 1986 yn fuan wedi iddo adael y grŵp roc, The Waterboys.
Yn ystod ei gyfnod gyda World Party, fe gafodd lwyddiant gyda sawl albwm gan gynnwys Private Revolution a Egyptology.
Fe ddaeth un o’u caneuon i frig y siartiau flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi i Robbie Williams ail-recordio’r gân ‘She’s The One’ yn 1999.
Yn gerddor profiadol, mi oedd Wallinger hefyd wedi cydweithio gyda’r seren Wyddelig, Sinead O’Connor.
Wrth roi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd Curt Smith o’r grŵp Tears For Fears: “Newyddion trist iawn, roeddwn i’n ffan mawr o Karl.”
Fe gafodd Karl Wallinger ddiagnosis o ymlediad (aneurysm) ar yr ymennydd yn 2001.
Mae’n gadael ei wraig Suzie Zamit, yn ogystal â dau o blant a dau o wyrion.