
‘Roedd llygod yn rhedeg o amgylch y byrddau’ ym Mhalas San Steffan
Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, ac aelod o Dŷ’r Arglwyddi wedi bod yn sôn am ‘gyflwr dadfeiliol’ Palas San Steffan erbyn hyn.
Fe wnaed y sylwadau gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley, wrth gael ei holi mewn noson arbennig yn Neuadd Goffa Cricieth dros y penwythnos.
Fe ddywedodd fod yr adeilad yn prysur ddadfeilio, a bod costau enbyd yn wynebu’r trethdalwyr er mwyn arbed ac adnewyddu rhannau helaeth o Balas San Steffan, adeilad sy’n cynnwys Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Roedd adroddiadau yn 2022 yn awgrymu y gallai gwaith i adfer yr adeilad i’w lawn ogoniant gymryd hyd at 76 mlynedd i’w gwblhau a chostio cymaint â £22bn.
Fe gyfeiriodd Yr Arglwydd Wigley yn benodol at un achlysur pan oedd yn cwrdd â’r Economegydd, Dr Eurfyl ap Gwilym am ginio yn un o amryw fwytai’r tŷ.
“Roedd Eurfyl ap Gwilym a finnau wedi cwrdd am ginio, a wir i chi, mi oedd ‘na lygod yn rhedeg yn wyllt o amgylch y bwyty.”

Mi aeth Yr Arglwydd Wigley ymlaen i ddweud sut oedd o a Mr ap Gwilym wedi ceisio tynnu sylw eraill oedd yn bwyta yn y bwyty ar y pryd, o’r sefyllfa.
“Ond wir i chi, mae hynny yn enghraifft o wir gyflwr y lle erbyn hyn.” ychwanegodd.
Mae 'na dros 30 o lefydd i fwyta ac yfed rhwng y ddau dŷ, ond ni ddywedodd Yr Arglwydd Wigley yn union ym mha un y gwelodd y llygod.
Roedd Yr Arglwydd Wigley yn cael ei holi gan y gyflwynwraig, Ffion Hague yn y digwyddiad oedd wedi ei drefnu gan ‘Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George’ yn Llanystumdwy.
