Newyddion S4C

Heddlu yn apelio eto am wybodaeth wedi marwolaeth dyn 23 oed yn Llandaf

11/03/2024
Llofruddiaeth Llandaf

Mae plismyn sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn 23 oed ar Noswyl Nadolig yng Nghaerdydd wedi apelio am dystion unwaith eto.

Cafodd William Bush, ei ddarganfod wedi ei anafu mewn cyfeiriad ar Stryd y Capel, yn Llandaf, toc wedi 11:30 ddydd Sul 24 Rhagfyr 2023.

Cafodd Dylan Thomas, 23 oed, o Landaf, ei gyhuddo o'i lofruddio ddydd Mawrth 26 Rhagfyr 2023, ac mae'n parhau yn y ddalfa tra’n aros am ei achos llys.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod eisoes wedi clywed gan “nifer” o dystion, ond yn apelio unwaith eto am unrhyw wybodaeth allai fod o ddiddordeb i'w hymchwiliad.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant: “Fel rhan o’r ymchwiliad sydd ar waith, mae nifer o dystion eisoes wedi’u nodi ac mae Tîm yr Ymchwiliad wedi siarad â nhw.

“Fodd bynnag, rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn Stryd y Capel, a’r ffordd rhwng y Stryd Fawr a maes parcio talu ac arddangos Stryd Fawr Llandaf rhwng 11:15 a 11:45 ar Noswyl Nadolig, nad yw’r heddlu wedi siarad â nhw eto, i gysylltu â ni os gwelwch yn dda.

“Wrth asesu teledu cylch cyfyng, mae’n ymddangos bod yna nifer o bobl yn y cyffiniau nad ydym wedi eu hadnabod na siarad â hwy eto, ac rwy'n gofyn i'r  unigolion hynny gysylltu â ni. Hyd yn oed os ydych yn teimlo na welsoch neu na chlywsoch unrhyw beth, dewch atom, fel y gallwn eich dileu fel tyst yn yr ymchwiliad hwn”.

Mae’r llu wedi gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth neu unrhyw luniau camera, fel ffonau symudol, clychau drws neu dashcam, i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2300436163.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.