Newyddion S4C

Drakeford yn ‘synnu’ pam bod Johnson yn gwrthod cyfarfod adeg Covid

11/03/2024
Mark Drakeford a Boris Johnson

Roedd Mark Drakeford wedi ei “synnu” nad oedd Boris Johnson yn fodlon cwrdd ag o a hefyd arweinwyr datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y pandemig.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn teimlo bod Boris Johnson wedi blaenoriaethu ei statws ei hun fel Prif Weinidog y DU dros fater “sylweddol” mynd i’r afael â Covid.

Fe wnaeth y sylwadau fel rhan o gyfres The Exit Interview gyda’r cyflwynydd Matt Chorley ar Times Radio.

Dywedodd Mark Drakeford bod Boris Johnson wedi penderfynu peidio â chwrdd ag o a gweddill yr arweinwyr datganoledig eraill “er mwyn gwarchod ei urddas ei hun.”

“Fo oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfan a doedd o ddim yn teimlo ei fod yn iawn o ran yr argraff y byddai yn ei roi iddo gael ei weld yn yr un ystafell a’r Prif Weinidogion eraill,” meddai.

“Mae’r ddadl honno sy’n rhoi blaenoriaeth i optics dros sylwedd pethau ynghanol pandemig iechyd yn fy synnu.

“Mae’n fy synnu i’n llwyr.”

Dyma wythnos lawn olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru.

Bydd y bleidlais ar arweinydd newydd Llafur Cymru - ac yn debygol iawn felly'r Prif Weinidog newydd - yn cau ddydd Iau a bydd y cyhoeddiad ddydd Sadwrn.

‘Edrych yn anghywir’

Wrth roi tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad Covid-19 ym mis Hydref dywedodd Boris Johnson ei fod wedi bod eisiau osgoi cadeirio cyfarfodydd gyda llywodraethau datganoledig Cymru am ei fod yn ffigwr amhoblogaidd gyda rhai.

Dywedodd bod Michael Gove wedi cadeirio'r cyfarfodydd ac wedi gwneud “job dda” o wneud hynny.

“Rwy’n credu ei fod yn edrych yn anghywir, yn y man cyntaf, i Brif Weinidog y DU gadeirio cyfarfodydd gyda Phrif Weinidogion y llywodraethau datganoledig fel pe baen ni’n ryw fath o Undeb Ewropeaidd bach a’n bod ni’n cwrdd fel cyngor ffederal,” meddai.

“Nid dyna yn fy marn sut mae datganoli i fod i weithio.

“Yn bwysicach na hynny roeddwn i’n ymwybodol fy mod i’n darged arbennig ar gyfer dicter cenedlaetholwyr.

“Yn hytrach na chythruddo'r SNP roeddwn i eisiau eu tawelu nhw a sicrhau eu cydsyniad nhw.”

Dywedodd Boris Johnson nad oedd y berthynas gyda’r llywodraethau datganoledig “bob tro yn hawdd”.

“Doedd buddiannau’r llywodraethau datganoledig ddim bob amser yn cyd-fynd â buddiannau Lloegr na’r DU,” meddai.

“Mae hynny’n rhan anochel o system ddatganoledig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.