Newyddion S4C

Hadau a gafodd eu hachub o foncyff coeden enwog 'yn dod yn fyw eto'

09/03/2024
sycamore gap.jpg

Mae hadau a gafodd eu hachub o foncyff coeden enwog a gafodd ei thorri i lawr "yn dod yn fyw", gan roi gobaith y bydd y goeden yn goroesi. 

Mae staff yng Nghanolfan Cadwraeth Planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gofalu am yr hadau am y pum mis diwethaf. 

Cafodd y Sycamorwydden, ger Mur Hadrian yn Northumberland, ei thorri ym mis Medi gan yr hyn y mae'r heddlu'n ei gredu oedd yn weithred o fandaliaeth.

Cyhoeddodd yr heddlu fod dyn 60 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar y pryd.

Mae lluniau a gafodd eu rhyddhau ddydd Sadwrn yn dangos casgliad o hadau bach yn dechrau tyfu.

Yn fuan ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth staff gasglu'r hadau oedd yn weddill o'r goeden, ac mae arbenigwyr wedi defnyddio ystod o dechnegau i feithrin yr hadau a gafodd eu hachub.

Dywedodd Andrew Jasper, cyfarwyddwr gerddi a pharcdiroedd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae'r technegau hyn, sy'n cael eu gwneud gyda gofal ofnadwy gan ein cadwraethwyr, yn cynnig gwaddol ar gyfer y goeden boblogaidd yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.