Newyddion S4C

'Sefyllfa anoddaf i gynghorau sir' wrth i doriadau i wasanaethau yn parhau

08/03/2024

'Sefyllfa anoddaf i gynghorau sir' wrth i doriadau i wasanaethau yn parhau

Lle bynnag ewch chi, yr un hen stori sydd. Sut mae cynnal gwasanaethau gyda llai o bres?

Mae gan awdurdodau lleol bentwr o gyfrifoldebau. Addysg, gofal, hamdden a chasglu gwastraff o blith y pwysicaf ond gyda darparu bob un yn costio mwy, mae'n frwydr i bob adran.

Mae llyfrgelloedd yn un o'r prin lefydd sydd ar ôl mewn cymuned lle does 'na ddim disgwyl i bobl wario. Mae pobl yn dod i mewn, yn eistedd lawr ac yn cymdeithasu yma.

Mae'n pobl ifanc yn ein defnyddio ar ôl ysgol i gymdeithasu. Pobl yn dod i chwilio am waith yn defnyddio ein cyfrifiaduron. Maen nhw'n cael cefnogaeth ar gyfer sut i ddefnyddio cyfrifiaduron.

Ni'n cynnig cymaint mwy 'na jyst llyfr.

I nifer o gynghorau, dyma'r unfed awr ar ddeg meddan nhw. Gyda gwaddol chwyddiant dal i'w deimlo Cyngor Môn oedd y diweddaraf i godi treth y cyngor o bron 10%.

Methu fforddio fo rili especially efo llai o waith yma. 'Sna'm byd, nac oes. Mae'n ddigon anodd fel y mae hi efo plant a thalu pres i'r ysgol a bob dim arall.

Dw i'm yn gwybod be 'dan ni'n cael yn ôl. Mae bob dim yn mynd i fyny ond tydi'r wages ddim yn mynd i fyny. Mae yn anodd ar bobl. Mae disgwyl i dreth y cyngor mynd i fyny 10%.

Chi'n teimlo bod chi'n cael gwerth am bres o'r hyn chi'n cael yn ôl?

Na, dim o gwbl. Be 'dan ni'n cael allan ohono fo? Dim byd a ni'n gorfod talu am ein bins green rwan sy'n £40 y flwyddyn. Mae'n ridiculous.

Dros y dŵr ar y tir mawr, dyw'r pwysau ddim yn lleddfu chwaith. Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i godi treth y cyngor eto, bron i 10%.

Mae'r bwlch ariannol flwyddyn yma yn £15 miliwn yn Cyngor Gwynedd felly mewn blwyddyn, ni'n gorfod ffeindio £15 miliwn. Mae hyn ar ben dros ddegawd o doriadau pryd mae gwasanaethau'r cyngor yn gwegian yn barod.

Bydd cartrefi yng Nghymru yn gorfod ddod o hyd i ragor o bres bob mis wrth i gostau ar draws Cymru barhau i godi. Tra bod Torfaen a Blaenau Gwent yn wynebu'r cynnydd lleia Ceredigion a Sir Benfro sydd o blith yr uchaf a phenderfyniad heddiw yn dangos mawredd yr her.

Efo'r darlun bron a bod yn glir o gwmpas Cymru mae canfod llwybr at gydbwyso'r rhifau unwaith eto'n dalcen caled.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.