Rupert Murdoch wedi dyweddio’n 92 oed i'w gariad Elena Zhukova
Mae Rupert Murdoch wedi dyweddio'n 92 oed yn ôl adroddiadau.
Mae Mr Murdoch yn fwyaf enwog yn y Deyrnas Unedig fel perchennog The Sun a’r Times a sylfaenydd cwmni Sky.
Cadarnhaodd ei gynrychiolwyr ei fod wedi dyweddio gyda'i gariad, Elena Zhukova, 67.
Y gred yw y bydd y briodas yn cael ei chynnal yng Nghaliffornia yn ddiweddarach eleni.
Mae Mr Murdoch wedi bod yn briod bedair gwaith yn y gorffennol, ac yn fwyaf diweddar gyda'r actores Jerri Hall.
Cyhoeddodd y llynedd ei fod wedi penderfynu ymddeol o'i swydd fel cadeirydd Fox and News Corp.
Dechreuodd Mr Murdoch ei yrfa yn Awstralia yn y 1950au, cyn mynd ymlaen yn ddiweddarach i brynu papurau newydd News of the World a The Sun yn y DU ym 1969.
Prynodd hefyd gyhoeddiadau yn UDA, gan gynnwys The New York Post a'r Wall Street Journal.
Lansiodd Fox News ym 1996, sef y rhaglen deledu newyddion sy'n cael ei gwylio fwyaf yn UDA.