Newyddion S4C

Sul y Mamau: Busnes blodau o Sir Gâr yn cofio am bobl sy'n 'mynd trwy amser caled'

10/03/2024

Sul y Mamau: Busnes blodau o Sir Gâr yn cofio am bobl sy'n 'mynd trwy amser caled'

“Ti ddim rili’n sylwi faint o beth yw Sul y Mamau nes bod ti yn colli rhywun.” 

Dyma eiriau Lowri Johnston o Sir Gâr, a hithau’n gyfarwydd â’r heriau y mae rhai pobl yn wynebu yr adeg hon o'r flwyddyn wedi iddi golli ei mam, Siân, yn fenyw ifanc. 

Wrth lansio ei busnes tyfu a gwerthu blodau ddydd Sul, mae’n benderfynol o gofio am y rheiny sy’n “mynd drwy amser caled” eleni. 

Mae’n awyddus i bobl ddeall ei bod hi’n “gweld nhw,” wedi iddi brofi’r her o alaru colled ei mam wrth i eraill ddathlu’r ŵyl. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, esboniodd Lowri: “Pan o’n i’n 21 oed ‘nes i golli mam yn sydyn iawn. 

“‘Odd hi’n 51 oed ac ‘odd e’n sioc fawr i ni fel teulu, ac am y blynydde’ ar ôl ‘ny ‘odd Sul y Mamau; o’n i’n casáu e,” meddai.

Image
Lowri Johnston

‘Heriol’

Roedd dod wyneb yn wyneb â’r holl flodau ac anrhegion i ddathlu Sul y Mamau yn yr archfarchnad yn her fawr i Lowri wedi iddi golli ei mam, meddai. 

“’Odd ‘na ryw deimlad o dylswn i fynd â blodau i’r bedd ond o’n i ddim yn gallu mynd i brynu blodau o’r siop achos ‘odd popeth mewn bouquets a jyst popeth ‘odd o gwmpas Sul y Mamau. 

“’Odd e ddim yn catered i unrhyw un ‘odd yn mynd trwy amser caled.” 

Ond gyda’i busnes, Blodau Caredig, mae’n gobeithio bod yn “gysur” i bobl sydd mewn sefyllfa debyg gan roi sicrwydd nad ydyn nhw “ar ben eu hunan.”

“O’n i’n ffeindo fe’n rili anghyfforddus… ‘odd e ddim yn eistedd yn iawn ‘da fi achos o’n i’n gwybod bod ‘na phobl yn mynd i weld e oedd yn ffyndo fe’n anodd, achos fi’n ffyndo fe’n anodd,” meddai. 

Oherwydd hynny, penderfynodd Lowri werthu blodau arbennig heb orfodi pobl oedd yn galaru i ddathlu’r ŵyl.

“Ni’n ‘neud opsiwn nawr gyda’r blodau lle yn hytrach ‘na cael bouquet Sul y Mamau bod nhw jyst gallu cael e heb unrhyw wrapping, heb gerdyn na dim byd ac wedyn mae’r blodau ‘na – allwn nhw ‘neud unrhyw beth maen nhw moyn gyda nhw.” 

Image
Mam Lowri Johnston
Mam Lowri Johnston, Siân Myfanwy Johnston

‘Cysylltu’

Mae gan Lowri berthynas “gymhleth” gyda’r ŵyl o hyd, ond ers iddi ddod yn fam i’w mab bedair blynedd yn ôl mae’n teimlo fod lle iddi allu dathlu eto. 

Roedd mam Lowri yn “dwli” ar flodau, ac mae tyfu a gwerthu blodau yn galluogi iddi gysylltu gyda hi, meddai. 

“Fi’n credu bod natur yn helpu ni jyst i deimlo cysylltiad at bobl, falle lle mae eu hegni nhw o gwmpas ni, a hefyd jyst o ran tyfu blodau a rhoi blodau. 

“Mae ‘da fi lot o atgofion neis o gael blodau neis gartre’ pan o’n i’n tyfu lan, felly mae ‘na rywbeth ambyti hwnna.

Roedd Lowri yn benderfynol o allu tyfu’r blodyn ‘sweet peas’ ar ei fferm flodau yn Nantgaredig, gan ei fod yn hel atgofion braf iddi. 

“Maen nhw’n y fath o blodau chi methu gwerthu yn yr archfarchnad achos ‘dyw nhw ddim yn teithio’n dda, maen nhw’n colli arogl nhw. 

“Mae tyfu blodau sydd ag arogl sydd yn dod ag atgofion yn ôl i bobl – mae hwnna’n teimlo fel mae ‘na bach o gylch fanna fi meddwl.” 

Image
Lowri Johnston

‘Cefnogaeth’

Mae rhedeg busnes Blodau Caredig gyda chymorth ei phartner busnes, Nicole, yn “newid hiwj” iddi gan ei bod yn “dod i hyn o’r newydd,” meddai. 

Cyn penderfynu ar newid gyrfa, mi oedd Lowri’n gweithio yn y maes marchnata ac mae’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth y mae hi wedi cael gan dyfwyr blodau eraill a’r gymuned leol. 

“Un o’r pethe’ fi ‘di ffeindio’n ddefnyddiol iawn wrth ddechrau’r busnes blodau yw faint o dyfwyr blodau eraill sydd o gwmpas.

“Mae ‘na llwyth yn ne Cymru lle i ni ac mae cefnogaeth nhw wedi bod yn arbennig. 

“Mae pawb jyst ishe cefnogi ei gilydd a fi ‘di bod yn eitha’ overwhelmed gyda pha mor gefnogol yw pawb. 

“Mae pawb yn helpu ei gilydd.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.