Newyddion S4C

Miloedd o wellingtons tu allan i'r Senedd wrth i ffermwyr barhau i brotestio yn erbyn cynllun amaeth Llywodraeth Cymru

07/03/2024

Miloedd o wellingtons tu allan i'r Senedd wrth i ffermwyr barhau i brotestio yn erbyn cynllun amaeth Llywodraeth Cymru

Roedd Undeb NFU Cymru wedi casglu Wellingtons gan ffermwyr o bob cwr o'r wlad.

Un par am bob swydd allai gael ei cholli o ganlyniad i'r drefn newydd o ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit, medden nhw.

"Heb i chi weld be sy gynnon ni heddiw mae'n anodd amgyffred be ydy 5,500 o bobl. Dw i'm yn ddyn emosiynol ond oedd rhaid i mi frathu 'ngwefus bore 'ma."

Heb dynnu oddi ar y neges yma, ydy'r ffigwr 5,500 braidd yn gamarweiniol? O gofio bod y Llywodraeth bellach yn dweud bod yr analysis yna yn hen, dyw e ddim yn cymryd y cynllun yn llawn i ystyriaeth.

"Rhaid i chi gofio mai asesiad y Llywodraeth oedd 5,500. Dw i'n gobeithio wir pan ddawn ni i'r cynllun terfynol na welwn ni swyddi'n cael eu colli."

Ymhell o Fae Caerdydd ar fferm Rhiwedog ger y Bala mae Emyr Jones yn un o'r miloedd sy'n poeni a fydd dyfodol i'w blant mewn amaethyddiaeth.

"'Dan ni di troi ac ail-hadu. Codi daear las ar anialdir. Dyna ydy'n gwaith ni fel ffermwyr. Cynhyrchu bwyd, a dyna 'dan ni 'di bod yn neud dros y blynyddoedd. Dyna 'dan ni isio parhau i wneud yma. "No wê ydan ni'n mynd i blannu coed ar y tir da 'ma."

Dadlau y gallai'r cynllun weithio'n dda os yw'r cyllid yn ddigonol mae elusennau amgylcheddol. Byddai talu ffermwyr i gynyddu faint o goed sydd ar eu tir a gwella cynefinoedd i fywyd gwyllt yn helpu busnesau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd tra'n adfer natur.

"Mae colledion difrifol o fywyd gwyllt wedi digwydd yng Nghymru dros yr hanner canrif dwetha. Yn anffodus, mae amaeth neu'r polisi sydd wedi gyrru amaeth wedi bod yn gyfrifol.

"Mae wedi blaenoriaethu cynnyrch yn llwyddiannus iawn el oedd isie. Ond doedd dim digon o amddiffyn bywyd gwallt a'r amgylchedd yn rhan o'r polisi yna."

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun subsidy newydd yn cau fory.

Heb os, mae wedi bod yn un o'r rhai mwyaf dadleuol yn hanes Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n dweud na wnewn nhw unrhyw benderfyniad ar gynnwys y cynllun newydd tan iddyn nhw gael amser i asesu'r holl ymatebion.

Yn y cyfamser, wedi safiad tawel o flaen y Senedd fe fydd yr esgidiau glaw yma'n cael eu danfon i Affrica ac i elusennau amaethyddol yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.