Hannah Gutierrez-Reed yn euog o ddynladdiad anwirfoddol ar set ffilm Rust
Mae aelod o griw ffilm a lwythodd gwn ar gyfer yr actor Alec Baldwin, cyn iddo gael ei danio a lladd aelod arall o griw ffilm Rust yn 2021, wedi ei chael yn euog o ddynladdiad anwirfoddol.
Roedd Hannah Gutierrez-Reed yn gweithio fel arfogwr ar y ffilm pan saethodd yr actor Alec Baldwin y gwn at Halyna Hutchins tra'n ymarfer ar gyfer golygfa o'r ffilm Western.
Cafodd Hutchins ei tharo gan y bwled a marw, ac fe gafodd cyfarwyddwr y ffilm, Joel Souza, ei anafu.
Daeth rheithgor mewn llys yn nhalaith New Mexico i'r casgliad bod Gutierrez-Reed yn euog o ddynladdiad anwirfoddol gan mai ei chyfrifoldeb oedd sicrhu fod yr holl arfau ar set y ffilm yn ddiogel i'w defnyddio.
Cafodd ei hebrwng o'r llys i'r carchar ac mae hi'n wynebu cyfnod o hyd at 18 mis dan glo a dirwy o $5000.
Mewn datganiad yn dilyn y ddedfryd, dywedodd teulu Halyna Hutchins: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y system gyfiawnder yn parhau i wneud yn siŵr bod gofyn i bawb arall sy’n gyfrifol am farwolaeth Halyna wynebu’r canlyniadau cyfreithiol i’w gweithredoedd.”
Y gred yw bod Hannah Gutierrez-Reed wedi cludo bocs o fwledi 'byw' o'i chartref yng Nghaliffornia i set y ffilm cyn i'r ffilmio ddechrau, a bod y bwledi hyn wedi treiddio'n ddamweiniol i ganol bwledi ffug oedd yn cael eu defnyddio gan yr actorion mewn ymarferion a tra'n ffilmio.