Newyddion S4C

Trenau ychwanegol i Gaerdydd ar gyfer gemau ail-gyfle Euro 2024 Cymru

06/03/2024
Cefnogwyr Cymru / trenau

Mae trenau ychwanegol a gwasanaethau hwyrach wedi'u hychwanegu ar gyfer gemau ail-gyfle Euro 2024 Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Mae tîm dynion Cymru yn chwarae'r Ffindir yn eu rownd gynderfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Iau 21 Mawrth, cyn wynebu naill ai Gwlad Pwyl neu Estonia ar ddydd Mawrth 26 Mawrth, a allai fod yn gêm rownd derfynol ail-gyfle neu'n gêm gyfeillgar rhyngwladol yn dibynnu ar ganlyniad gêm y Ffindir.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau ychwanegol ar ddiwrnod y gêm a'r diwrnod canlynol trwy ychwanegu mwy o gerbydau a gwasanaethau diweddarach rhag ofn y bydd amser ychwanegol yn cael ei chwarae a chiciau o'r smotyn.

Cyn y gêm

  • 10:40 Caergybi i Caerdydd Canolog a 12:30 Manceinion Piccadilly – Caerdydd Canolog – bydd o leiaf pedwar trên yn rhedeg.
  • Capasiti ychwanegol wedi'i gynllunio rhwng Caerdydd Canolog a Pharc Ninian.
  • Capasiti ychwanegol wedi'i gynllunio ar gyfer llwybrau allweddol cyn y gêm, gan ganolbwyntio ar Lynebwy, Maesteg, holl wasanaethau'r Cymoedd, y Gororau, Bro Morgannwg, y Barri a gwasanaethau'r Gorllewin.

Ar ôl y gêm

  • Adferiad llawn o wasanaethau Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr am y noson. Ychwanegwyd capasiti ychwanegol lle bo modd.
  • Gwasanaethau ychwanegol i Rymni, Casnewydd a Phenarth.
  • Gwasanaethau ychwanegol o Barc Ninian i Radur.
  • Gwasanaeth diweddarach Caerdydd Canolog – Crewe trwy Wrecsam / Caer yn gadael Caerdydd Canolog am 22:47.
  • Bydd gwasanaeth allweddol Caerdydd Canolog – Caergybi ar ôl y gemau yn gadael Caerdydd Canolog am 11:25 yn rhedeg gydag isafswm o bedwar cerbyd.

Bydd cynlluniau digwyddiadau mawr llawn a bysiau wrth gefn hefyd ar waith ar gyfer y ddwy gêm.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn Senedd Cymru: “Mae’r cyhoeddiad heddiw, ynghylch gwasanaethau trenau ychwanegol i ac o Gaerdydd ar gyfer y gêm ail-gyfle hollbwysig yn erbyn y Ffindir, yn ddatblygiad i’w groesawu. 

"Rydym yn falch bod Trafnidiaeth Cymru o’r diwedd wedi gwrando ar y cyhoedd - a’r Pwyllgor hwn - sydd wedi galw ers tro am wasanaethau gwell i gefnogwyr pêl-droed.   

“Ers blynyddoedd bellach, mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi dioddef gwasanaethau trên gwael ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol. Rydym wedi clywed cwynion di-ri am gerbydau llawn dop, neu fod y gwasanaeth olaf o Gaerdydd i'r gogledd yn gadael funudau yn unig wedi’r chwiban olaf. Mae bwlch amlwg rhwng hynny a safon y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol.   

“Mae’r rheilffyrdd yn rhan allweddol o’n seilwaith cenedlaethol ac mae gwasanaeth dibynadwy sy’n gweithio i’r cyhoedd yn hanfodol. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad cadarnhaol, ond bydd y Pwyllgor hwn yn parhau i graffu ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru ac yn pwyso am ragor o welliannau.” 

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gemau hyn ac wedi gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau ar ddiwrnod gêm.

“Gall gemau canol wythnos fod yn her oherwydd nid oes gennym reolaeth dros ffactorau pwysig fel gwaith peirianneg sydd wedi'i drefnu* a staffio blychau signalau a all gael effaith fawr ar wasanaethau hwyr y nos.  Mae ein tîm wedi gweithio'n galed i ychwanegu gwasanaethau hwyrach ac ychwanegol lle bo hynny'n bosibl.

“Bydd gennym staff mewn gorsafoedd allweddol ledled Cymru ar ddiwrnod y gêm a bydd staff ychwanegol yn teithio o Ogledd Cymru i fod ar gael i helpu ein cwsmeriaid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.