Newyddion S4C

Llwybr wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo wedi blynyddoedd o drafod

06/03/2024

Llwybr wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo wedi blynyddoedd o drafod

"Fel chi'n gweld, mae loris yn pasio trwyddo ac un yn aros i ddod lan y rhiw."

Ac yn achosi ciwiau wedyn. Golygfa digon cyfarwydd ar Stryd Rhosmaen yn Llandelio. Yn gyson, mae'r traffig trwm yn ciwio tu fas i'r siop goffi a gwin.

"Ni ar pinch point lle mae'r heol yn mynd yn gul. Mae ffenestri ni ar ochr y palmant. Pan mae dau lori neu pethau'n trio croesi, mae'r ffenestri'n ysgwyd. Mae'n bendant yn broblem."

Llwnc destun i gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru wedi iddyn nhw benderfynu ar lwybr ar gyfer ffordd osgoi newydd.

"Fel person busnes, fi'n gobeithio wneith e wella'r dref. Mae digon o siopau a llefydd bwyta independent gyda ni sy'n denu pobl."

Bydd y llwybr yn dechrau ger Ysgol Bro Dinefwr i'r de o Landeilo cyn croesi Afon Tywi a bwrw tua'r gogledd ar ochr ddwyreiniol y dre ac yn ymuno a'r gylchfan i'r gogledd o Landeilo.

Yn ogsytal â hynny mae'r cynllun ehangach i dawelu traffig yng nghanol y dref trwy gyflwyno system unffordd. Y rhan yma o Stryd Rhosmaen yn Llandeilo sy'n achosi trafferthion. Mae'n gul a lorïau reit ar bwys y ffordd a hynny'n achosi trafferthion ers degawdau.

Mae cynlluniau wedi bod i ddatblygu ffordd osgoi o gwmpas y dref a busnesau lleol yn croesawu'r datblygiad diweddaraf.

"Fi moyn e achos mae'n eithaf danjerus i gerdded rownd dref. Mae wedi mynd ymlaen am sbel felly gobeithio bydd e'n mynd ymlaen."

"Mae'n hen bryd bod e'n dod. Weithiau, mae'r loris mawr yn dod a ffaelu mynd heibio ei gilydd. Wedi bod yn disgwyl ers sbel. Amser hir, hir a bydd e siwr o fod sbel cyn dod o hyd."

Chi'n credu bydd e yn dod?

"Pwy a ŵyr, gobeithio!"

Mae adeiladu ffordd osgoi yn rhan o gytundeb ar gyllideb 2016 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru ac mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn un arwyddocaol yn ôl aelod lleol Plaid Cymru yn y Senedd.

"Mae'r Llywodraeth wedi gweud maen nhw wedi dewis hewl fel datrysiad. Nid yn unig hynny, maen nhw wedi adnabod llwybr yr hewl hynny. Bydden nhw'n fuan yn gweithredu yn gyfreithiol i warchod y llwybr ac yn dechrau ar y gwaith manwl i ddylunio ac adeiladu'r hewl.

"Mae arian sylweddol, £80 miliwn wedi clustnodi ar gyfer y prosiect."

"Doedd hwn ddim yn rhan o'r arolwg o'r ffyrdd yng Nghymru. Ar y llaw arall, maen nhw'n dweud yn y cyhoeddiad bod nhw'n mynd i bwysleisio ffyrdd eraill o deithio a lleihau'r cyflymdra ar rai o'r ffyrdd o gwmpas yr ysgol."

Wedi hir aros mae'n edrych fel petai ffordd osgoi Llandeilo gam yn nes. Ond mae 'na siwrnai hir i fynd tan bod y daith yma ar ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.