Y Gyllideb: Disgwyl i Jeremy Hunt ostwng Yswiriant Gwladol
Y Gyllideb: Disgwyl i Jeremy Hunt ostwng Yswiriant Gwladol
Mae disgwyl i'r Canghellor gyhoeddi y bydd taliadau Yswiriant Gwladol yn gostwng wrth iddo gyflwyno ei gyllideb cyn Etholiad Cyffredinol yn ddiweddarach eleni.
Y gred yw y bydd Jeremy Hunt yn gostwng Yswiriant Gwladol o ddwy geiniog ac yn rhewi'r dreth ar danwydd, wrth iddo geisio denu pleidleisiau i'r Ceidwadwyr cyn yr etholiad.
Mae adroddiadau'n eang fod y Canghellor wedi penderfynu torri Yswiriant Gwladol yn hytrach na'r opsiwn drytach, sef gostwng treth incwm o ddwy geiniog.
Mae'n paratoi i gyflwyno ei gyllideb wrth iddo geisio mynd i'r afael â dwy her, sef ceisio adfywio economi'r Deyrnas Unedig, a cheisio troi'r rhod, wrth i arolwg barn awgrymu fod plaid Rishi Sunak yn mynd i golli'r etholiad cyffredinol nesaf.
Dyw Downing Street ddim wedi ymateb i'r sïon am yr Yswiriant Gwladol hyd yma. Ac mae'r Trysorlys hefyd wedi gwrthod gwneud sylw cyn y gyllideb ddydd Mercher.
Ond yn ôl The Times, byddai'r gostyngiad yn dod i rym fis Ebrill, a byddai'n werth £450 ar gyfartaledd.
Fe aeth y Canghellor i weld y Brenin Charles ddydd Mawrth ym Mhalas Buckingham, sydd yn gyfarfod arferol cyn cyhoeddi'r gyllideb.