Newyddion S4C

Miloedd o lawfeddygon a meddygon arbenigol wedi pleidleisio dros streicio

04/03/2024
Streic meddygon iau Cymru

Mae miloedd o lawfeddygon a meddygon arbenigol yng Nghymru wedi pleidleisio dros streicio fis Ebrill. 

Cyhoeddodd eu hundeb, Cymdeithas Feddygol BMA Cymru fod eu haelodau wedi pleidleisio o blaid streic am 48 awr, ar ddydd Mawrth, 16 Ebrill.

Mae'r undeb yn dadlau bod cyflogau meddygon wedi eu cwtogi bron i draean mewn termau real ers 2008/09. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n dymuno talu mwy o gyflog i feddygon, ond maen nhw'n dweud nad oes modd cynnig hynny heb ragor o gymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  

Yn ôl BMA Cymru, pleidleisiodd mwy na 80% o lawfeddygon o blaid y streic ddeuddydd. 

Mae meddygon iau eisoes wedi bod ar streic ddwywaith eleni oherwydd eu bod yn anfodlon â'u tâl a'u hamodau gwaith. 

Yn ôl yr undeb, bydd cynllun yn ei le adeg y streic fis Ebrill, er mwyn sicrhau bod meddygon yn medru darparu gwasanaeth brys pan fo argyfwng yn codi.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.