Cyhuddo tri mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen dwy flwydd oed
Mae'r heddlu wedi cyhuddo tri o bobl mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen ym mhentref Garden City, Sir y Fflint, ym mis Awst 2021.
Roedd Ethan Ives yn ddwy oed pan fu farw.
Mae Michael Ives, 46 oed, a Kerry Ives, 45 oed, y ddau o Garden City, wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol, achosi ymosodiad, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn i ddioddef dioddefaint diangen, ac anafu.
Mae Shannon Kayleigh Ives, 27 oed, o’r Wyddgrug wedi’i chyhuddo o achosi neu ganiatáu i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol, achosi ymosodiad, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn i ddioddef dioddefaint ac anaf diangen.
Mae Michael a Kerry Ives wedi ymddangos gerbron Ynadon Wrecsam ddydd Llun ac mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron ddydd Mercher.
Mae Shannon Ives wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.