Newyddion S4C

Denu dros 750,000 o wylwyr trwy wneud fideos hanes Cymru ar TikTok

05/03/2024

Denu dros 750,000 o wylwyr trwy wneud fideos hanes Cymru ar TikTok

Mae cannoedd ar filoedd bellach wedi gwylio fideos ar hanes Cymru sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar ar gyfrwng cymdeithasol TikTok. 

Syniad Luke Davies o'r Barri, ym Mro Morgannwg yw'r cyfan.

Dros y misoedd diwethaf mae'r cyflwynydd ac actor 30 oed wedi creu fideos am hanes Cymru- o Owain Glyndŵr i Bendigeidfran, Terfysg Casnewydd a ffigyrau hanes modern fel Betty Campbell. 

Daw ei ddiddordeb o'i ddyddiau ysgol pan roedd yn ymddiddori mewn pynciau fel hanes a drama.

 Dechreuodd ei fenter TikTok wedi i'w gariad ei annog.

"Pan o'n i'n ifanc yn ysgol, o'n i'n rili joio pethau fel stori a straeon, pethau fel drama, hanes, llenyddiaeth," meddai wrth Newyddion S4C.

"Felly wnes i sylweddoli pa fath o bethau dylen i wneud ar TikTok. Fi'n dwli ar hanes. Fi 'di watsho lot o ffilms hanesyddol yn tyfu lan fel Bridge over the River Kwai, Great Escape neu Dambusters, ffilmiau hen ffasiwn. 

"Mae'r stori hanes Cymru mor, mor, mor diddorol hefyd yn fy marn i.

"Roedd fy nghariad wedi dweud wrtha i, 'pam nag wyt ti'n siarad am hanes arlein? Ti'n dwli ar hanes, ti 'di creu llwyth o gynnwys i bawb arall, jyst dechreua creu fideos hanes'.

"Felly ma' rhaid i fi diolch i hi hefyd."

Image
Luke Davies
Mae Luke Davies yn tyrchu drwy nifer o ffynonellau i sicrhau bod y wybodaeth mae'n cyflwyno ar TikTok yn ffeithiol gywir.

'Ddim yn hanesydd'

Er bod Luke Davies yn cyflwyno ei fideos yn hyderus mae'n pwysleisio nad yw'n hanesydd.

Mae'n dweud bod rhaid iddo ymchwilio yn drylwyr i sicrhau bod yr wybodaeth mae'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir.

Ymhlith y sylwadau mae nifer gan bobl ifanc yn dweud nad oedden nhw wedi dysgu yr hanes sydd yng nghynnwys ei fideos yn yr ysgol. 

"Pryd fi'n rhoi fideos lan ar TikTok mae lot o bobl ifanc yn dweud pethau fel 'wnaethon ni ddim dysgu hyn yn hanes' neu 'dylwn ni 'di dysgu hyn yng ngwers hanes' er enghraifft,so ma hwnna'n swnio'n eitha cŵl."

Image
Luke Davies
Mae gan Luke dros 6,500 o ddilynwyr ac mae eu fideos wedi cael eu gwylio cannoedd ar filoedd o weithiau.


Yn ogystal ag addysgu pobl am hanes Cymru, mae Luke Davies yn falch o fod yn rhan o gymuned sydd yn siarad Cymraeg ar TikTok.

"Os allai fod yn rhan o'r cymuned 'na o'r bobl sy'n siarad Cymraeg ac yn siarad am hanes Cymru ar TikTok, dwi'n falch iawn i fod yn rhan o'r cymuned 'na," meddai.

Defnydd y Gymraeg

I ddechrau roedd Luke yn cyhoeddi ei fideos yn Saesneg, ond mae bellach wedi dechrau eu cyhoeddi yn y Gymraeg hefyd.

Mae e wedi derbyn nifer o sylwadau cadarnhaol am yr iaith, a rheiny gan bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg.

"Nes i dechre defnyddio ambell i derm yn Gymraeg ar-lein fel, 'diolch yn fawr am wylio' neu 'shwmai' ar y dechrau neu ambell i enw Cymraeg fel Llywelyn ein Llyw Olaf neu Owain Glyndŵr, er enghraifft.

"A mae'r adborth o bobl, pobl yn y sylwadau yn jyst rili positif.

"So, o'n i'n meddwl 'ie, ma' rhaid i fi jyst neud mwy o gontent a mwy o gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg', achos pryd ni'n siarad Cymraeg 'yn ni'n creu hanes o ryw ffordd, ni'n cadw'r iaith yn fyw. 

"Felly, mae siarad Cymraeg yn fy marn i yn rhywbeth hanesyddol"

Image
Luke Davies
O'r Mabinogi i hanes modern, mae Luke yn trafod nifer o ddigwyddiadau a ffigyrau pwysig hanes Cymru yn ei fideos.

'Adborth grêt'

Yn ogystal â'r sylwadau cadarnhaol am yr iaith Gymraeg, mae Luke Davies, sydd yn wreiddiol o Lanelli, hefyd yn derbyn sylwadau ac adborth cadarnhaol am y fideos.

Mae'n dweud bod hynny'n ei annog i barhau i greu cynnwys ac yn rhoi gwên ar ei wyneb.

"Wnaeth un person dweud 'dwi methu aros am y fideo nesa', a 'ma hwnna'n grêt i jyst glywed."

Gyda’r bwriad o wneud mwy o fideos, mae Luke yn benderfynol o sicrhau bod hanes Cymru yr un mor amlwg â hanes Groeg a Rhufain i gynulleidfa eang.

"Hefyd un peth arall nes i sylweddoli bod pobl yn dwli ar, dwli gwrando ar pethau fel y Rhufeiniaid neu am Groeg neu pethau Nordig.

"Mae pawb yn gwybod pwy yw Loki neu Thor neu Odin, beth am Bendigeidfran, neu Gwydion neu, Blodeuwedd neu'r Gwyllgi? Llamhigyn y Dŵr? Pam lai yn de fe?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.