Newyddion S4C

'Chwedlonol': Y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Lewis Jones wedi marw'n 92 oed

04/03/2024
Lewis Jones.jpeg

Mae'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Lewis Jones wedi marw yn 92 oed.

Fe chwaraeodd dros Gymru yn rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair, yn ogystal â thîm Prydain yn rygbi’r gynghrair a’r Llewod yn rygbi’r undeb.

Bu farw yn “heddychlon yn ei gwsg” yn Ysbyty St James’s yn Leeds, yn dilyn salwch byr.

Cafodd y newyddion ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol gan glwb rygbi’r gynghrair, Leeds Rhinos.

Wrth roi teyrnged, dywedodd y clwb eu bod wedi colli chwaraewr "chwedlonol", ac na fydd cartref y clwb, Headingley, “fyth yr un peth heb Lewis.”

Mewn datganiad, dywedodd y clwb y byddai chwaraewyr yn gwisgo bandiau du ar eu breichiau ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Leigh Leopards nos Wener, er cof am y Cymro.

“Ar ran pawb yn Leeds Rhinos, hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Lewis ar yr amser trist hwn.”

Llwyddiant

Wedi ei eni a’u fagu yng Ngorseinon, fe chwaraeodd dros Gastell-nedd a Llanelli, cyn cael ei alw i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham, ac yntau yn ei arddegau.

Enillodd 10 cap dros Gymru a gwneud tri ymddangosiad dros y Llewod, ar eu taith i Seland Newydd ac Awstralia yn 1950.

Fe newidiodd gamp i rygbi’r gynghrair yn 1952 a symudodd i chwarae dros Leeds Rhinos. Fe arweiniodd y tîm i’w pencampwriaeth gyntaf erioed yn 1961, a hynny ar ôl ennill y Cwpan Her yn Wembley yn 1957.

Yn ystod 12 mlynedd gyda Leeds, fe chwaraeodd 385 o gemau, gan sgorio 144 o geisiau a chicio 1,244 o goliau. Roedd hynny yn record ar y pryd, ac roedd y cyfanswm o bwyntiau, sef 2,290, hefyd yn record.

Enillodd 15 o gapiau dros dîm rygbi’r gynghrair Prydain yn ogystal.

Cafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Rygbi'r Gynghrair yn 2013 cyn cael ei gynnwys hefyd ar Restr Anrhydeddus Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

"Tad arbennig"

Dywedodd merch Lewis, Karen Westaway: “Rydym am ddiolch i’r holl staff yn St. James’s am ddarparu gofal mor ardderchog i Dad dros y dyddiau diwethaf.

“Heddiw mae Leeds yn ffarwelio ag arwr rygbi, wrth i ni ffarwelio â Thad bendigedig - mentor a hyfforddwr ysbrydoledig na fydd ei deulu, neu unrhyw un a gafodd y lwc i’w adnabod, yn anghofio ei gynhesrwydd a’i garedigrwydd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Leeds Rhinos, Gary Hetherington: “Ni fydd Headingley yr un peth heb Lewis. Ni fethodd erioed gêm gartref y Rhinos ac arhosodd mor angerddol ag erioed dros ei dîm.

“Roedd yn un o sêr cyntaf rygbi yn y 1950au a cyrhaeddodd statws chwedlonol gyda Leeds o fewn rygbi’r gynghrair.

"Bydd colled fawr ar ei ôl a byddwn yn dathlu ei fywyd gyda’n cefnogwyr yn ein gêm gartref nesaf.”

Llun: Leeds Rhinos

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.