Newyddion S4C

Ymchwiliad Covid-19: Rheolau gwahanol am fasgiau yng Nghymru yn ‘broblematig iawn’

04/03/2024
Syr Frank Atheron

Roedd gosod rheolau gwahanol yng Nghymru i rannau eraill o’r DU yn “creu problemau” wrth geisio mynd i'r afael â phandemig Covid-19, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Wrth roi tystiolaeth i’r Ymchwiliad Covid-19 ddydd Llun, dywedodd Syr Frank Atherton, y byddai “wedi bod yn well i gyd-fynd” â rheolau yn Lloegr ynglŷn â defnydd masgiau yn gyhoeddus.

Fe wnaeth hefyd godi pryderon dros “oedi” gan gabinet Llywodraeth Cymru wrth iddynt drafod y feirws, yn ogystal â “diffyg cefnogaeth” iddo ar ôl i Covid-19 gyrraedd Cymru.

Fe dreuliodd dair awr yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad, tra bod Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol i’r adran Iechyd, a’r Fonesig Shan Morgan, y cyn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru, hefyd wedi ymddangos o flaen y panel ddydd Llun.

Dyma’r ail wythnos allan o dair y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, er mwyn craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

‘Dryslyd’

Cymru oedd y wlad olaf i orfodi masgiau, gyda’r cyngor yn cael ei roi ar 9 Gorffennaf 2020.

Daeth hynny ar ôl i’r un cyngor gael ei roi yn yr Alban ar 28 Ebrill, yng Ngogledd Iwerddon ar 7 Mai a Lloegr ar 11 Mai.

Dywedodd Syr Frank Atherton: “Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n rhoi gweinidogion mewn sefyllfa eithaf anodd, oherwydd roeddwn i’n ymdrin â’r mater ychydig yn wahanol i’r Prif Swyddogion Meddygol (CMOs) eraill.

“Daeth yn ddryslyd i’r cyhoedd nad oedden ni’n cyd-fynd â’n gilydd ac ein bod ni’n cymryd trywydd gwahanol ynglŷn â gorchuddio’r wyneb.”

Ychwanegodd mai’r gweinidogion oedd yn gwneud y penderfyniad terfynol, ond ei fod yn cynghori nhw oherwydd “nad oedd y dystiolaeth yn gryf.”

Roedd yn orfodol i wisgo masgiau ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yng Ngorffennaf 2020, ond nid mewn siopau tan Fedi 2020.

Ond cafodd gwisgo mygydau ei wneud yn orfodol mewn siopau yn Lloegr ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth Syr Frank gynghori yn erbyn gwneud masgiau yn orfodol ar y pryd, oherwydd pryderon dros safonau’r offer, ond fe wnaeth gyfaddef ddydd Llun bod gosod gwahanol reolau yn yr achos yma wedi bod yn “broblematig iawn”.

Ychwanegodd Mr Atherton: “Dw i’n meddwl ar ôl yr holl amser ac egni a gafodd ei ddefnyddio yn trafod masgiau, mi fyddai wedi bod yn well i gyd-fynd.”

Dywedodd hefyd bod yna fîs o oedi ar ôl iddo rybuddio bod “risg sylweddol” y byddai’r feirws yn lledu i Gymru cyn i gabinet Llywodraeth Cymru ei drafod.

Rhybudd

Dywedodd ei fod wedi rhybuddio'r Llywodraeth am fygythiad y feirws ar 24 Ionawr 2020, ond ni chafodd trafodaeth ei gynnal tan 25 Chwefror 2020.

Doedd hyn ddim yn ei synnu, meddai, gan ystyried "popeth oedd yn digwydd yng Nghymru ar y pryd, gan gynnwys ceisio rheoli'r llifogydd."

Fe wnaeth hefyd ddatgan bod “diffyg cefnogaeth” iddo yn ystod dechrau’r pandemig, oedd yn ei wneud yn “eithriad” ymhlith prif swyddogion meddygol eraill y DU, oedd yn derbyn fwy o gefnogaeth.

Roedd hynny wedi ei gwneud iddo deimlo ei fod dan bwysau, gan ei fod wedi “colli rheolaeth” o’i e-byst.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.