Newyddion S4C

Lee Waters yn cyhoeddi ei fod yn camu i lawr fel Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

04/03/2024
Lee Waters

Mae'r dirprwy weinidog oedd yn gyfrifol am gyflwyno terfyn gyrru 20mya i Gymru wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr o’i swydd pan fydd y prif weinidog newydd yn cael ei benodi ymhen pythefnos.

Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd Lee Waters y bydd yn “gadael ei rôl drafnidiaeth mewn pythefnos”. 

Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yng nghabinet Llywodraeth Cymru

Daw hyn wrth i’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, gystadlu i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a chymryd y swydd Prif Weinidog.

Bydd aelodau’r blaid yn pleidleisio dros eu dewis fel yr arweinydd nesaf, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth.

Ychwanegodd Mr Waters, sydd yn cynrychioli etholaeth Llanelli, y byddai yn dileu ei gyfrif  X yn ogystal, am ei fod yn cael “pentwr o sylwadau cas” i’w negeseuon.

Dywedodd yn y neges: “Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydwyf wedi treulio gormod o amser o lawer ar Twitter.

“Fe wnaeth stopio bod yn hwyl sbel yn ôl ond nawr rwy’n cael pentwr o sylwadau cas, hyd yn oed i’r negeseuon fwyaf diniwed.

“Pan rwy’n gadael fy rôl drafnidiaeth mewn pythefnos, byddaf yn dileu fy nghyfrif. All Elon stwffio fe lan ei X.”

Mae Mr Waters wedi dweud yn y gorffennol iddo dderbyn “sawl neges gas” bob dydd, yn dilyn ei benderfyniad i gyflwyno terfyn 20mya mewn rhannau o Gymru.

Mae wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers 2016, ac wedi bod yn Ddirprwy Weinidog i’r Llywodraeth ers 2018.

Cafodd ei benodi’n Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn 2021, gan gymryd cyfrifoldeb am feysydd trafnidiaeth, yr amgylchedd, ynni, tai a chynllunio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.