
'Da ni'n dibynnu ar y cyhoedd.': Yr RNLI angen cefnogaeth wrth ddathlu 200 mlynedd

'Da ni'n dibynnu ar y cyhoedd.': Yr RNLI angen cefnogaeth wrth ddathlu 200 mlynedd
Wrth i’r RNLI ddathlu pen-blwydd yn 200 oed eleni, mae aelodau criw Porthdinllaen yn pwysleisio fod dal angen cefnogaeth y cyhoedd arnyn nhw.
Gyda mwy o dwristiaid nag erioed o’r blaen yn ymweld â rhannau o Gymru mae’r RNLI hefyd yn dweud bod angen mwy o addysg cyn i bobl fentro i’r môr.
Wrth nodi 200 o flynyddoedd ers ei sefydlu mae’r elusen yn dweud eu bod wedi achub bron i 13,000 o bobl yng Nghymru.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae rôl yr elusen yr un mor bwysig a fuodd hi erioed gyda phwyslais bellach ar addysgu pobl o’r peryglon.
Fe gafodd Gorsaf Bad Achub Porthdinllaen ar hyd arfordir Llŷn ei sefydlu 160 o flynyddoedd yn ôl ac ers hynny mae 391 o fywydau wedi eu hachub.
I’r Cocsyn, Owain Williams mae’r orsaf yn rhan holl bwysig o rwydwaith yr elusen.
“Mae gynnon ni ardal eang o Ynys Enlli yn y de, fyny i Gaernarfon a hanner ffordd i arfordir Môn ac yna hanner ffordd allan i Iwerddon.
“Dwi’n meddwl fod pobl yn cymryd hyn o ddifrif ond mae 'na wastad le am fwy o addysg. Ma’n hinsawdd beryg ynddo’i hun ac mae pobl yn cael eu hunain mewn i drafferth a dyna pam bod angen bad achub 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach.”
Ers ei sefydlu yng Nghymru mae cychod y bad achub wedi eu lansio 47,596 o weithiau ac yn denu bob math o wirfoddolwyr.

Un o’r swyddi pwysicaf ar unrhyw ymgyrch achub ydi swydd y Mordwywr sy’n helpu’r cocsyn ganfod y claf sydd mewn peryg.
Ym Mhorthdinllaen, dyma swydd Mali Parry Jones sy’n eistedd yng nghrombil y cwch wrth y sgriniau.
“Dwi’n gweithio allan be mae’r gwynt yn neud, be mae’r llanw’n neud," meddai.
“Dwi’n gweithio’n agos efo’r cocsyn a chadw mewn cysylltiad efo Gwylwyr y Glannau."
Balchder
Ar fwrdd y cwch yn ymarfer mae tri aelod yn ferched a gyda thair arall hefyd ar alw mae gan orsaf Porthdinllaen gyfran uchel o gymharu â’r cyfartaledd ar draws Prydain.
Yn ôl yr RNLI fe dyfodd y canran o ferched sy'n gwirfoddoli o 8.6% yn 2015 i 14% yn 2022 a mwy fyth ers hynny.
Yn ôl Mali Parry Jones mae hi’n cyfri’r tîm yn “ffodus iawn” o hynny.
“Does wybod mewn bach fydd y chwech yma ar y llyfra," meddai.

Gyda dathliadau i nodi 200 mlynedd ers sefydlu’r elusen yn digwydd ar draws y DU ddydd Llun, mae llwyddiant tîm Porthdinllaen yn destun balchder i aelod hynaf y criw, Ken Fitzpatrick BEM sy’n 75 oed.
Fe ymunodd gyda’r criw yn 17 oed ym 1967 gan roi 44 o flynyddoedd i’r orsaf.
“Mae’r RNLI yn un o’r pethau gorau ac unigryw sydd wedi ei wneud,” meddai.
“Maen nhw’n buddsoddi yn y criw er eu bod nhw’n wirfoddolwyr a hefyd da ni isho recriwtio a gan fod ni’n elusen 'da ni’n dibynnu ar y cyhoedd i roi pres i ni.”