Newyddion S4C

Adroddiad damniol: Ni ddylai llofrudd Sarah Everard, Wayne Couzens fod wedi cael swydd yn heddwas

29/02/2024
Sarah Everard

Ni ddylai llofrudd Sarah Everard, Wayne Couzens erioed wedi cael swydd yn heddwas yn ôl ymchwiliad.

Dywedodd yr adroddiad damniol i’r achos bod cyfleoedd i stopio'r troseddwr rhyw wedi eu hanwybyddu a’u methu droeon.

Datgelodd yr ymchwiliad hanes o droseddu rhywiol honedig yn dyddio’n ôl bron i 20 mlynedd cyn i’r dyn a oedd yn heddwas arfog ar y pryd gipio Miss Everard ym mis Mawrth 2021.

Wrth ymateb dywedodd teulu Sarah Everard eu bod nhw’n credu y byddai’r fenyw a fu farw yn 33 oed dal yn fyw os nad oedd Wayne Couzens yn heddwas.

“Fyddai hi erioed wedi mynd i gar dieithryn,” medden nhw.

Wrth gyhoeddi canlyniadau’r ymchwiliad ddydd Iau dywedodd y cadeirydd Y Fonesig Elish Angiolini nad oedd “unrhyw beth yn atal Couzens arall” os nad oedd diwylliant ac arferion yr heddlu yn cael eu newid.

Fe allai ac fe ddylai tri llu gwahanol fod wedi atal Couzens rhag cael swydd fel swyddog, meddai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly bod gweithredoedd Wayne Couzens “ddim yn adlewyrchiad ar y mwyafrif o swyddogion yr heddlu”.

Ond dywedodd bod “'Roedd y bobl oedd i fod i’w chadw yn saff wedi methu â gwneud hynny fwy nag unwaith."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Met, Syr Mark Rowley fod yr adroddiad yn “alwad brys i weithredu i bob un ohonom ym maes plismona”.

Roedd rhaid i’r gwasanaeth “fynd ymhellach ac yn gyflymach” er mwyn ennill ymddiriedaeth y cyhoedd yn ôl yn sgil troseddau Couzens.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.