Nodi 10 mlynedd o Gyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Daw hyn yn ystod dathliadau Wythnos y Lluoedd Arfog rhwng 21 a 27 Mehefin.
Cafodd y Cyfamod ei sefydlu i sicrhau mynediad i wasanaethau ar gyfer aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.
Mae'r Cyfamod yn canolbwyntio ar sicrhau fod mynediad priodol i wasanaethau cefnogol ac iechyd.
Mae’r Cyfamod wedi cynyddu cyllid y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, yn ogystal â chreu Canllaw Ymaddasu a darparu cyllid i elusennau sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith cyn-aelodau.
Wrth ymweld â Barics Hightown yn Wrecsam ddydd Llun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:
“Drwy gydol pandemig y coronafeirws, mae aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog wedi parhau i roi cymorth ac arbenigedd amhrisiadwy i gymunedau ar draws y wlad.
“Mae wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi llwyfan a chyfle inni gydnabod ac ystyried y rhan enfawr sydd gan ein Lluoedd Arfog i’w chwarae wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel, yn awr ac yn y gorffennol. Maent yn llawn haeddu ein diolch a’n gwerthfawrogiad.”
Mae disgwyl i Gynllun Ymaddasu cyntaf Cymru gael ei gyhoeddi ddydd Iau ar gyfer personél y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd sy’n dymuno adleoli i Gymru.
Llun: Defence Images