
Tanau yn cael eu cynnau ym Mrwsel wrth i brotest y ffermwyr ddwysáu
Mae protestiadau gan ffermwyr ym mhrifddinas Gwlad Belg wedi dwysáu wrth i ffermwyr roi teiars ar dân ar ôl gyrru yno mewn tractorau fore Llun.
Mae tail hefyd wedi ei wasgaru ar hyd strydoedd Brwsel.
Protestio yn erbyn prisiau isel bwyd, mewnforion rhad a mesurau amgylcheddol newydd yr Undeb Ewropeaidd mae'r ffermwyr.
Mae'r heddlu wedi ymateb drwy danio dŵr tuag at deiars sydd wedi eu rhoi ar dân gan y protestwyr.
Yng nghanol Brwsel mae presenoldeb yr heddlu yn amlwg ac mae weiren bigog yn amgylchynu adeiladau'r Undeb Ewropeaidd.
Ym Madrid mae protest fawr yn cael ei chynnal o achos bod ffermwyr wedi eu cynddeiriogi ac mae nifer o rai eraill wedi bod yn Ffrainc a'r Almaen yn ddiweddar.

Yng Nghymru, mae ffermwyr yn protestio yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r polisïau i fynd i'r afael â chlefyd TB a llygredd mewn afonydd.
Lluniau: Wochit