Newyddion S4C

Cau llwybr poblogaidd i draeth yn Sir Benfro oherwydd cerrig yn cwympo

24/02/2024
Llanusyllt

Mae llwybr poblogaidd i draeth yn Sir Benfro wedi gorfod cau oherwydd bod cerrig yn cwympo ger ei fynedfa.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cau'r twnnel sy'n cysylltu Maes Parcio Coppet Hall a The Strand yn Llanusyllt. Mae cwymp y creigiau wedi digwydd uwchben y fynedfa ar ochr Llanusyllt.

Mewn datganiad ar Facebook dywedodd y Cyngor: "Bydd y twnnel yn parhau ar gau am resymau diogelwch dros y penwythnos hyd nes y bydd modd asesu'r ardal. Cofiwch barchu'r penderfyniad yma."

Bu sawl cwymp creigiau yn yr ardal yn ystod y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr digwyddodd tirlithriad ar y llwybr sy'n cysylltu Llanusyllt a Phont Wiseman yn Sir Benfro, yn union uwchben y fynedfa i hen dwnnel rheilffordd sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel llwybr cerdded.

Pryderon

Wrth ymateb i’r post dywedodd Becky Sieniawski: “Mae’r llwybr cyfan o Bont Wisemans i Llanusyllt bellach ar gau. 

"Rwy’n gwerthfawrogi’r difrifoldeb a’r costau sylweddol sy’n debygol o fod ynghlwm a'i drwsio ond mae’n rhaid gwneud rhywbeth cyn gynted â phosibl, neu o leiaf gynllun gweithredu."

Dywedodd Sean Carreras: “Mae angen cau ac asesu’r llwybr troed cyfan a dylai trigolion a thwristiaid barchu hynny...does dim ots gen i os yw ar gau am flwyddyn cyn belled yn cael ei asesu a'i wneud yn iawn ac yn ddiogel."

Ychwanegodd John Whitby: "Mae angen i'r cyngor geisio dod o hyd i arian ar gyfer atgyweiriadau." 

Roedd Meleri Owen yn bwriadu cerdded ar hyd y llwybr ddydd Llun.

"Roeddwn i'n mynd i gerdded yno ddydd Llun. Gobeithio y bydd y cyngor yn trwsio'r cwymp craig ar y llwybr hwn i Bont Wiseman cyn yr haf," meddai.

Llun: Cyngor Sir Penfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.