Gwhardd AS o'r Blaid Geidwadol am 'wrthod ymddiheuro' am wneud sylwadau 'gwrth-Fwslimaidd a hiliol'
Mae AS a chyn-ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr, Lee Anderson, wedi cael ei wahardd gan y blaid ar ôl iddo "wrthod ymddiheuro” am honni bod Sadiq Khan yn cael ei reoli gan Islamyddion, meddai llefarydd ar ran y Prif Chwip Simon Hart.
Dywedodd Lee Anderson wrth GB News fod “Islamwyr” wedi "ennill rheolaeth” ar faer Llundain, Sadiq Khan.
Mae Khan wedi disgrifio sylwadau fel rhai sy’n “arllwys tanwydd ar dân casineb gwrth-Fwslimaidd”.
Ychwanegodd fod sylwadau Mr Anderson fel rhai "Islamoffobaidd, gwrth-Fwslimaidd a hiliol".
Mae ei eiriau, sy’n dilyn protestiadau o blaid Palestina y tu allan i San Steffan wedi cael eu condemnio gan rai Ceidwadwyr.
Ddydd Gwener, dywedodd Mr Anderson wrth GB News: "Dydw i ddim yn credu bod gan yr Islamwyr reolaeth ar ein gwlad, ond yr hyn rydw i'n ei gredu yw bod ganddyn nhw reolaeth ar Khan ac mae ganddyn nhw reolaeth ar Lundain...mae e wedi rhoi ein prifddinas i ffwrdd i'w ffrindiau."
Fe wnaeth sylwadau AS Ashfield ysgogi beirniadaeth gan y Blaid Lafur a rhai Ceidwadwyr - gan gynnwys y cyn-ganghellor Syr Sajid Javid a ail-bostiodd y fideo o Mr Anderson yn gwneud y sylwadau ac ysgrifennodd "am beth hurt i'w ddweud".
Llun: Victoria Jones/PA