'Dim mynediad' i Amsterdam i gefnogwyr pêl-droed Cymru
'Dim mynediad' i Amsterdam i gefnogwyr pêl-droed Cymru
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud na fydd hi'n bosib i gefnogwyr pêl-droed Cymru gyrraedd Amsterdam i wylio'r crysau cochion yn rownd yr 16 olaf.
Roedd hi'n siarad yng nghynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru brynhawn dydd Llun.
Daw'r diweddariad, dridiau yn unig wedi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gadarnhau na fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach.
"Rydym wedi derbyn cyngor gan heddlu yn Amsterdam sydd wedi'n hysbysu ni na fyddan nhw'n gadael i gefnogwyr Cymru gyrraedd y wlad, ac mae hynny'n golygu ein bod ni wrth gwrs yn eich annog i aros yma a gwylio'r gemau'n ddiogel", dywedodd Ms Morgan.
Cyflymu'r broses frechu
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai'r llywodraeth yn defnyddio'r pedair wythnos nesaf i gynyddu brechiadau er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posib rhag Covid-19.
Erbyn canol mis Gorffennaf, mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno hanner miliwn dos ychwanegol o frechlynnau i'r system, gan ganolbwyntio ar ddarparu ail ddos a sicrhau fod pobl wedi eu brechu'n llawn.
Ychwanegodd y Gweinidog fod dros 90% o bobl dros 65 oed wedi derbyn ail ddos o'r brechlyn rhag Covid-19 hyd yma.
"Mae tystiolaeth dda yn dechrau ymddangos sy'n awgrymu bod dau ddos o'r brechlyn yn helpu i leihau'r risg o orfod mynd i'r ysbyty o ganlyniad i amrywiolyn delta", ychwanegodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones.
Fe fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cynnig diweddariad ar y sefyllfa mewn cynhadledd arall ddydd Gwener.
'Wedi cael llond bol'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cefnogwr tîm pêl-droed Cymru, Tommie Collins fod pobl wedi "cael llond bol".
Ar raglen Newyddion S4C, eglurodd: "Mae'r holl beth yn wallgof, ac mae'n edrych fel bod Cymru wedi cael yr anlwc fwyaf sy'n mynd."
"Da ni wedi cael ein trin fel baw i ddweud y gwir," meddai.