Angen 'gwella'r addysg am y mislif mewn ysgolion'
Mae angen gwella'r addysg am y mislif mewn ysgolion yn ôl Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru Hannah Blythyn.
Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, sef Cymru sy'n Falch o'r Mislif, yn nodi'r angen i fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion.
Mae dysgu am y mislif yn rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, gyda'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi'r hyn y dylid ei ddysgu dros amser wrth i blant dyfu.
Gobaith y llywodraeth ydi y bydd gwella argaeledd yr adnoddau addysgol yn cael gwared â'r stigma sy'n gysylltiedig â siarad am y mislif.
Mae rhai o amcanion y cynllun 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' yn cynnwys mynd i'r afael â thlodi mislif drwy wella mynediad at nwyddau mislif a sicrhau urddas yn ystod y mislif drwy gael gwared ag unrhyw stigma.
Mae gwaith wedi dechrau ar gyd-gynhyrchu adnoddau addysg am y mislif fel rhan o'r dysgu mandadol yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
'Cael gwared ar y stigma'
Dywedodd Hannah Blythyn: "Mae mynd i'r afael ag urddas mislif yn rhan allweddol o'n cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Rhaid inni wneud mwy i wella addysg am gylchred y mislif os ydyn ni am fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion.
"Os gallwn ni gael gwared ar y stigma sydd ynghlwm wrth siarad am y mislif, a chwalu'r mythau a'r tabŵau amdano hefyd, gallwn wella lles mislif disgyblion a’u hymwybyddiaeth o'r mislif mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd hyn yn ei dro o fudd i'w hiechyd wrth iddyn nhw ddod yn oedolion."
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles: "Rydyn ni'n ymdrechu i wella adnoddau addysg ynghylch y mislif, a sicrhau bod urddas mislif yn cael ei ystyried mewn canllawiau i ysgolion, awdurdodau lleol a cholegau.
"Mae lles mislif wedi'i gynnwys yn ein cwricwlwm drwy'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n cael ei gyflwyno yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r sector Addysg Uwch i hyrwyddo urddas mislif fel rhan o bolisïau ac arferion sefydliadau mewn perthynas â llesiant."