Newyddion S4C

Carcharu dyn am achosi marwolaethau mam a merch o Gaerffili ar yr M4

Cheryl Woods a Sarah Smith

Mae dyn wedi ei garcharu am achosi marwolaethau mam a merch o Gaerffili mewn gwrthdrawiad ar yr M4.

Cafodd Firas Zeineddine, 46 oed, ei garcharu am 12 mis yn Llys y Goron Swindon ddydd Llun.

Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal mewn gwrandawiad cynharach, wedi i Cheryl Woods, 61 oed, a Sarha Smith, 40 oed gael eu lladd ar 20 Hydref 2023. 

Fe gafodd Zeineddine ei brofi'n euog gan fod data o'i gar Tesla wedi ei gofnodi'r gyrru dros 90 mya ar y pryd, a hynny yn ystod Storm Babet.

Roedd Zeineddine, o ardal Keynsham ym Mryste, yn gyrru ar y llain allanol pan gollodd reolaeth gan fod dŵr ar y ffordd ar y pryd.

Collodd reolaeth o'r car gan daro lori aeth yn ei blaen i daro car Ms Woods a Ms Smith, oedd wedi parcio ar ochr y draffordd yn dilyn gwrthdrawiad cynharach, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd teulu Cheryl Woods a Sarha Smith adeg eu marwolaethau eu bod yn bobl oedd bob tro yn helpu eraill.

“Roedd Cheryl Woods yn fam gariadus, mamgu, chwaer a ffrind annwyl. Roedd yn rhoi blaenoriaeth gyson i les ei theulu dros ei lles ei hun, ac ymfalchïai yn ei threftadaeth Gymreig tra’n meithrin cariad dwfn at natur.

“Roedd Sarha, yn dilyn ôl traed ei mam, yn anhunanol.

“Roedd hi nid yn unig yn fam, mamgu, chwaer, modryb a ffrind, ond mae ei habsenoldeb yn gadael gwagle i'r rhai oedd yn dibynnu arni.

“Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei weld trwy ei chwe merch, fydd yn ei chadw yn eu cof am byth.”

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.