Mamau 'yn mynd heb fwyd': Galw am ddyblu tâl mamolaeth
Mae galwadau ar Lywodraeth y DU i ddyblu tâl mamolaeth, fel nad yw mamau'n cael eu gorfodi i fynd nôl i'r gwaith yn rhy fuan.
Mae undeb Unsain a mudiad Maternity Action yn dweud dylai'r tâl godi i £364.70.
Mae nhw'n honni fod rhai merched yn dychwelyd i'r gwaith yn fuan, a ddim yn bwyta, am nad ydyn nhw'n gallu byw ar y tâl statudol presennol.
Yn ôl arolwg diweddar gan Maternity Action, roedd chwarter y merched a gafodd eu holi yn dweud eu bod wedi peidio bwyta - weithiau am ddiwrnod cyfan - er mwyn gallu bwydo eu teuluoedd.
Cafodd 1400 o ferched oedd wedi cael cyfnod mamolaeth eu holi yn yr arolwg.
Mae Tal Mamolaeth Statudol ar gael am 39 wythnos, ac yn 90% o gyflog wythnosol y fam am y chwe wythnos gyntaf.
Wedyn, am hyd at 33 wythnos, mae un ai'n £172.48 yr wythnos, neu 90% o'u cyflog wythnosol - beth bynnag yw'r isaf.
Mae Unison a Maternity Action yn dweud y dylai mamau gael tâl tebyg i'r isafswm cyflog cenedlaethol o £10.42 yr awr.
Dywedodd ysgrifenydd Unison, Christina Mc Anea:"Mae pawb yn teimlo'r effaith o'r cynnydd mewn costau byw, ond mae'n taro mamau newydd yn arbennig o galed.
"Ni ddylai'r un fam orfod mynd heb fwyd. Ond mae methiant tâl mamolaeth i gadw fyny gyda chostau byw cynyddol yn achosi caledi ariannol difrifol i lawer o weithwyr beichiog a mamau newydd."