Newyddion S4C

Darganfod porpois gyda'i ben wedi torri i ffwrdd yn Ynys Môn

Llamhidydd traeth

RHYBUDD! MAE'R ERTHYGL YMA'N CYNNWYS LLUNIAU O LAMHIDYDD GYDA'I BEN WEDI TORRI I FFWRDD

Image
llif llamhidydd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i gorff llamhidydd (porpoise) sy'n anifail tebyg i ddolffin gael ei ganfod gyda'i ben wedi'i dorri i ffwrdd ar draeth yn Ynys Môn.

Cafodd yr anifail  ei ganfod ar draeth Aberffraw fore Sul gan gwpl oedd yn mynd â'u cŵn am dro.

Mae'r cwpl hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod hefyd wedi dod o hyd i lif gwaedlyd mewn bin sbwriel gyferbyn â'r traeth.

Mae llamhidyddion wedi eu hamddiffyn dan y gyfraith, ac mae lladd neu symud y mamaliaid yn drosedd.

Yn ôl Lowri Mair Jones, a ddaeth o hyd i'r anifail, mae'r heddlu wedi dweud wrthi fod penglogau llamhidyddion yn gwerthu am "bres mawr ar y we".

Image
Corff Llamhidydd

Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn apelio i'r cyhoedd am fwy o wybodaeth ar ôl i'r corff cael ei ganfod heb ben ar fore Sul.

Dywedodd PC Amy Bennet o'r llu: "Mae hwn yn ddigwyddiad trallodus ac yn drosedd o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

"Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, neu unrhyw un a welodd y digwyddiad, gysylltu â ni."

Ychwanegodd y llu eu bod wedi darganfod eitem maen nhw'n amau a gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad.

Image
Corff Llamhidydd

(Lluniau: Lowri Mair Jones)
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.