Gerwyn Price yn tynnu allan o Bencampwriaeth y Chwaraewyr oherwydd 'amodau amatur'
Fe dynnodd y chwaraewr dartiau Gerwyn Price allan o gystadleuaeth Pencampwriaeth y Chwaraewyr ddydd Llun gan feio'r "amodau amatur" yno.
Penderfynodd y Cymro roi'r gorau iddi hanner ffordd trwy'r gêm yn erbyn Brendan Dolan yn ystod rownd yr 16 olaf.
Gadawodd Price heb nodi'r rhesymau ar y pryd, ac ysgrifennodd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddarach bod yr amodau yn "hollol warthus" yn ystod y gystadleuaeth yn Wigan.
Dywedodd trrefnwyr pencampwriaeth y PDC: “Rydym yn deall ei fod [Price] yn teimlo bod y lleoliad yn oer.”
Ysgrifennodd Price hefyd ar ei gyfrif Instagram: “Teithio yr holl ffordd i Wigan i chwarae mewn gêm broffesiynol ac mae’n rhaid i ni chwarae mewn amodau amatur.
"Dydw i erioed wedi ildio yn ystod gêm.
"Wedi siomi oherwydd roeddwn yn chwarae yn dda iawn heddiw ac rwy'n dibynnu cymaint ar y digwyddiadau yma."
Ychwanegodd na fydd yn chwarae yn y gystadleuaeth yfory chwaith.
Mae disgwyl iddo chwarae nesaf yn yr Uwch Gynghrair yn Glasgow ddydd Iau.