Newyddion S4C

Dau yn ceisio gosod record byd am y ddringfa gyflymaf fyny'r Wyddfa mewn cadair olwyn

11/02/2024
know no bounds.png

Fe fydd dau o bobl yn ceisio gosod record y byd am y ddringfa gyflymaf i fyny'r Wyddfa mewn cadair olwyn wedi'i bweru tra'n codi ymwybyddiaeth o ddiffyg mynediad i’r anabl wrth ddringo mynyddoedd. 

Mae gan Josh Wintersgill, 30, a Maxwell McKnight, 19, atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (spinal muscular atrophy) ac fe fydd y ddau yn ymgymryd â'r her o geisio gosod y record byd ym mis Mehefin.

Byddant yn defnyddio cadair olwyn sydd yn addas ar gyfer pob math o dir i wneud yr her.

Dywedodd Mr Wintersgill fod yr her "yn bosib gyda'r rhwydwaith cywir o gefnogaeth o'n cwmpas ni.

"Yr hyn dw i'n ceisio ei wneud ydi tynnu sylw at y ffaith, gyda'r offer cywir, y gall pobl ag anableddau sydd angen defnyddio'r darnau hyn o offer gael mynediad i'r awyr agored," meddai.

Mae Mr Wintersgill wedi defnyddio ei gadair olwyn ar gyfer sawl dringfa, ond mae wedi wynebu heriau sydd weithiau yn ei atal rhag parhau. 

Un o'i ddringfeydd cyntaf oedd i fyny Pen y Fan ond wedi iddo gyrraedd, gwelodd fod gan yr unig lwybr gamfa a giat wedi ei chloi, ac nid oedd modd iddo fynd heibio.

"Roedd yn rhaid i ni droi yn ôl a gyrru'r holl ffordd adref.

"Rhyw bedwar mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd Pen y Fan fod ganddyn nhw dîm ymroddedig ar y llawr yno felly fe aethom yn ôl a llwyddo i ddringo'r mynydd."

Ychwanegodd Mr McKnight: "Nid yn unig y bydd y cadeiriau olwyn hyn yn helpu iechyd meddwl pobl a'u gallu nhw i fynd i weld y byd, ond byddan nhw hefyd yn helpu bywydau addysgiadol pobl.

"Dwi'n gyffrous iawn at yr her ac yn gobeithio y gallwn ni newid bywyd rhywun o fewn y gymuned.

"Dylai pawb allu fynd i fwynhau natur ar ben eu hunain a chael y rhyddid i fynd tu allan heb boeni am eu diogelwch."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.