Newyddion S4C

Return to Sanclêr: Oedd gan Elvis Presley wreiddiau Cymreig?

11/02/2024
elvis.png

Wyddoch chi fod rhai'n awgrymu fod gan Elvis Presley wreiddiau Cymreig?

Mae'r awgrym wedi ei wneud ers tro fod gan y seren a fu farw yn 1977 yn 42 oed waed Cymraeg, ond fe'i gafodd ei wneud yn fwyaf diweddar mewn sgwrs gan yr arbenigwr marchnata Rory Sutherland.

Mewn cyfweliad dywedodd Mr Sutherland: "Y gred yw yn gyffredinol fod enw canol Elvis, Aron, yn gamgymeriad sillafu naill ail gan ei rieni neu pwy bynnag gofrestrodd ei enedigaeth.

"Ond mewn gwirionedd, y sillafiad Cymraeg o Aaron ydi Aron.

"Dwi'n credu fod ei dad yn sicr eu bod nhw'n Gymry, a bod 'Presley' wedi dod o Fynydd Preseli lle mae yna Eglwys Sant Elvis.

"Dim ond un Eglwys Sant Elvis sydd yna yn y byd, a hynny yn Sir Benfro, sydd ddim yn bell o Fynydd Preseli."

Presley o'r Preseli?

Cafodd y syniad ei awgrymu mewn cylchoedd academaidd gan Terry Breverton, oedd yn ddarlithydd astudiaethau busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn ôl Mr Breverton, roedd gwreiddiau Elvis yng ngorllewin Cymru, ym Mhreseli, ac mae'n dweud y gallai ei deulu fod wedi cael cysylltiadau â'r capel cyfagos, Sant Elvis.  

"Roedd gan ei ddiweddar frawd, Jesse Garon Presley, enw canol Cymraeg, ac roedd gan ei fam, Gladys, enw Cymraeg hefyd.

"Efallai bod ei nain Doll Mansell wedi dod o deulu enwog Mansel o Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr."
 
Ond mae yna adroddiadau hefyd fod gan Elvis wreiddiau yn Yr Alban, mewn pentref yn Sir Aberdeen.
 
Yr Alban oedd lleoliad unig ymweliad Elvis â'r DU, wedi iddo lanio ym Maes Awyr Prestwick ym 1960.
 
Mae modd dod o hyd i wreiddiau cyn-deidiau Elvis o'r 1700au yn Lonmay yn Sir Aberdeen.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.