Newyddion S4C

Ymchwilio i amgylchiadau damwain awyren fechan ym Môn

11/02/2024
bodffordd

Mae'r gwaith o ymchwilio i amgylchiadau damwain awyren fechan ym Môn ddydd Sadwrn ar gychwyn.

Fe wnaeth yr awyren blymio i ardd gefn tŷ ar stâd Cae Bach Aur ym Modffordd ger Llangefni. 

Cafodd y gwasanaeth tân, ambiwlans a'r heddlu eu galw i'r digwyddiad ac fe gafodd y peilot ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau mân.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn datganiad fod swyddogion wedi ymateb i'r ddamwain ychydig cyn 13:45.

Dywedodd Steve Davies, sy’n byw drws nesaf, ei fod wedi clywed sŵn “fel injan yn cam-danio ac yn torri allan” ac yna “sŵn fel coed yn cael eu taro a chlec uchel”.

“Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn awyren ysgafn yn chwalu nes i fy nghymydog ddod draw yn gofyn a welais unrhyw beth,” meddai.

“Bryd hynny roedd yr heddlu a’r gwasanaeth tân ar y ffordd.”

Dywedodd Mr Davies ei fod yn “iawn” nawr, gan ychwanegu ei fod yn ddiolchgar am ba mor gyflym y gwnaeth y gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn datganiad brynhawn Sadwrn: "Am 13:44 ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni dderbyn adroddiadau fod awyren fach wedi plymio i'r ddaear ym Modffordd ger Llangefni.

"Fe wnaethom ni fynychu'r digwyddiad, ynghyd â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chriwiau ambiwlans. 

"Dim ond y peilot, oedd yn ddyn, oedd yr unig berson ar yr awyren ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty gan yr Ambiwlans Awyr gydag anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.

"Does dim adroddiadau eraill o anafiadau yn sgil y digwyddiad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.