Newyddion S4C

Aelod o Blaid Cymru yr ieuengaf erioed i fynd i Dŷ'r Arglwyddi

10/02/2024
carmen ria smith.png

Aelod o Blaid Cymru yw'r person ieuengaf erioed i fynd i Dŷ'r Arglwyddi.

Mae Carmen Ria Smith yn Gynghorydd Materion Cyhoeddus ac yn gyn bennaeth staff ar gyfer grŵp y blaid yn Senedd Cymru.

Hi yw'r person ieuengaf erioed drwy Brydain i gael ei henwebu am le yn ail siambr Llywodraeth y DU.

Cyn ei henwebiad, Charlotte Owen, cyn ymgynghorydd i Boris Johnson, oedd yr ieuengaf i gael ei dewis pan oedd hi'n 30 oed.

Mae Ms Smith wedi cael ei henwebu gan Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Cyhoeddodd Downing Street restr o'r 13 aelod newydd a fydd yn rhan o Dŷ'r Arglwyddi.

Mewn datganiad, dywedodd Carmen Smith: "Dwi'n edrych ymlaen at ymuno gyda thîm Plaid Cymru yn San Steffan a gweithio ar ran pobl Cymru. Mae'r dasg honno yn un sydd angen ei gwneud ar frys.

"Gyda ein Haelodau Seneddol, byddaf yn brwydro am gytundeb teg i Gymru ac yn dwyn y llywodraeth yma a Llywodraethau y DU y dyfodol i gyfrif.

"Fel dynes ifanc, byddaf yn gweithio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i chwarae rôl actif yn ein cymunedau a'n cenedl." 

Mae wyth enwebiad y Ceidwadwyr yn cynnwys Paul Goodman, sef cyn AS a golygydd gwefan ConservativeHome, a'r ymgyrchydd hawliau anabl Rosa Monckton

Mae gan Llafur bedwar Arglwydd newydd, gan gynnwys y newyddiadurwr a'r sylwebydd gwleidyddol Ayesha Hazarika a chyn-arweinydd undeb y gweithwyr siop Usdaw, John Hannett.

"Mae'r Brenin wedi bod yn falch iawn o gyflwyno'r Arglwyddiaethau canlynol o'r Deyrnas Unedig am oes" meddai'r cyhoeddiad swyddogol am yr Arglwyddi newydd i gael eu dyrchafu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.