Newyddion S4C

Ymosodiad alcali: 'Bur debyg' fod dyn mae'r heddlu'n chwilio amdano wedi marw

09/02/2024
abdul ezedi.png

Yn ôl heddlu’r Met mae’n bur debyg fod y dyn maen nhw’n chwilio amdano  wedi ymosodiad cemegol yn Llundain bellach wedi marw ar ôl iddo fynd i mewn i Afon Tafwys.

Dyw Abdul Shokoor Ezedi ddim wedi cael ei weld ers noson yr ymosodiad yn Clapham ar 31 Ionawr, pan gafodd hylif alcali ei daflu dros fam a’i dau blentyn gan achosi anaf difrifol i lygad dde'r fenyw.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, dywedodd swyddogion Heddlu’r Met eu bod nhw’n credu fod Ezedi wedi mynd i mewn i’r dŵr wedi iddo gael ei weld am y tro diwethaf ar Bont Chelsea.

Nid oes corff wedi’i ganfod, ac mae’r llu yn dweud bod posibilrwydd cryf na fyddan nhw’n dod o hyd i gorff.

Cafodd Ezedi ei weld ar ddelweddau camerau cylch cyfyng yn “cerdded gyda phwrpas” am bedair milltir ger Afon Tafwys. Mae’n ymddangos fod ei ymddygiad wedi newid pan gyrhaeddodd Pont Chelsea.

Cafodd ei weld yn "pwyso” dros ochr y bont ar ddelweddau CCTV.

Dywedodd swyddog o heddlu’r Met fod yr heddlu wedi treulio’r 24 awr ddiwethaf yn astudio delweddau camerau cylch cyfyng yn “fanwl”, gan ddod i’r casgliad ei fod mwy na thebyg wedi mynd i’r dŵr.

“Rydym wedi edrych ar yr holl onglau sydd ar gael ar y camerau, a gyda chymorth Trafnidiaeth Llundain a delweddau camerau cylch cyfyng ar fysiau oedd yn teithio dros y bont ar y pryd,  does dim byd i ddangos ei fod wedi cerdded oddi ar y bont,” meddai.

Yn ôl y Ditectif Uwch-arolygydd Rick Sewart, marwolaeth oedd y canlyniad “mwyaf tebygol" os oedd wedi mynd i'r dŵr.

Ychwanegodd ei bod hi’n annhebygol fod Abdul Ezedi wedi bod mewn cyswllt ag unrhyw un wedi’r ymosodiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.