Newyddion S4C

Undebau amaeth mewn trafodaethau brys gyda gweinidogion

Undebau amaeth mewn trafodaethau brys gyda gweinidogion

Mae'r prif undebau amaeth cenedlaethol wedi eu gwahodd i gyfarfod brys â Llywodraeth Cymru.

Mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AS, wedi gwahodd llywyddion Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru i gyfarfod brys i glywed eu barn a thrafod pryderon ffermwyr a busnesau gwledig Cymru.

Mae’r cyfarfod wedi’i drefnu yn dilyn cais brys gan Lywydd NFU Cymru sydd eisoes wedi cyfarfod â'r Gweinidog Lesley Griffiths, yn gynharach yr wythnos hon i drafod y gofid y mae’r diwydiant yn ei deimlo ar hyn o bryd.

Fe wnaeth 3,000 o amaethwyr fynychu cyfarfod yng Nghaerfyrddin nos Iau yn y trydydd cyfarfod mewn wythnos i gael ei gynnal i drafod dyfodol amaeth yng Nghymru, a hynny wedi rhai yn y Trallwng ac Arberth yn gynharach.

'Pryderon dwfn'

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: “Fe wnaethon ni gwrdd â’r Gweinidog ddydd Mawrth i fynegi pryderon dwfn y diwydiant ac fe wnaethom ni'n glir iddi am gryfder teimladau a difrifoldeb y sefyllfa yn dilyn adborth a gawsom mewn cyfres o gyfarfodydd. 

"Croesawaf y ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod pryderon difrifol ffermwyr ac felly wedi cytuno i gyfarfod ac edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hyn.

“Ar ôl teithio ar hyd a lled Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf a chyfarfod â miloedd o aelodau, mae’n amlwg bod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) presennol a’r cynigion a nodir ynddo yn achosi ymdeimlad dwfn o ing a phryder.

“Mae’r Gweinidog wedi fy sicrhau bod hwn yn parhau i fod yn ymgynghoriad gwirioneddol ac felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffermio yng Nghymru i ymateb a rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r Llywodraeth am gryfder y teimladau sy’n bodoli ymhlith ein cymuned ffermio.

Mae'r undebau wedi trefnu cyfarfodydd i'r aelodau yn dilyn anfodlonrwydd gyda Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn ogystal â pholisïau eraill yn ymwneud â'r diciâu (TB) a'r cyfyngiadau i geisio lleihau faint o nitradau sy'n cael eu colli i afonydd a llynoedd.

'Diwygio'

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi dweud ei fod yn "falch iawn" fod y Gweinidog wedi cytuno i gyfarfod brys - a hynny er mwyn trafod pryderon sydd eisoes wedi cael "ei gwyntyllu gyda Llywodraeth Cymru sawl gwaith mewn manylder."

Dywedodd ei fod yn "derbyn yn llwyr" yr angen am Gynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru, ond bod angen i gynllun o'r fath hefyd bod o fudd i ffermwyr. 

"Mae rhwystredigaeth ffermwyr Cymru wedi bod yn amlwg i’r Undeb ers misoedd ac nid yw’n syndod fod hyn wedi dod i’r wyneb bellach gyda chyfarfodydd cyhoeddus yn denu miloedd o ffermwyr ers dechrau’r flwyddyn. 

"Fel mae pethau’n edrych ar hyn o bryd mae’r cynigion yn anhebygol o fod yn gynaliadwy nac o fudd i Ffermio."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Gweinidog yn cwrdd â rhanddeiliad yn rheolaidd, gan gynnwys yr Undebau Amaeth.  

"Mae cyfarfod wedi’i drenfu i drafod y sioeau deithiol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru a’r ddau undeb ynglyn â ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy, unwaith mae’r rhain wedi’u cwblhau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.