Siân James yn ail-ymweld â lleoliadau'r ffilm Pride
Mae'r cyn-Aelod Seneddol a’r ymgyrchydd, Siân James wedi bod yn ail-ymweld â’r lleoliadau pwysig iddi yn ymgyrch streic y glowyr, lleoliadau gafodd hefyd eu defnyddio fel rhan o’r ffilm Pride.
Ym mhennod olaf cyfres Taith Bywyd ar S4C ma Sian James yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei bywyd a dylanwadu ar ei gyrfa.
Mae'r daith yn cynnwys ail-ymweld â’r Electric Ballroom yn Llundain, lleoliad digwyddiad ‘Pits and Perverts’ gafodd ei drefnu gan y mudiad Lesbians and Gays Support the Miners, ym mis Rhagfyr 1984 .
Cyngerdd oedd hwn i godi arian i’r teuluoedd oedd wedi’u heffeithio gan y streic.
Bydd Siân yn cyfarfod â Jonathan Blake, un o aelodau gwreiddiol yr LGSM oedd yn rhan ganolog o sefydlu’r berthynas arbennig rhwng y glowyr a’r gymuned hoyw, ac un sydd wedi dod yn ffrind oes i Siân.
Dywedodd Siân: “Pan chi o dan ymosodiad, chi’n edrych am bobl eraill sydd o dan ymosodiad a chi’n dysgu o’r grwpiau yna beth mae bywyd wedi bod fel, a shwt maen nhw wedi gwthio nôl a delio gyda annhegwch.”
Dros gyfnod y streic, mi lwyddodd y Lesbians and Gays Support the Miners godi tua £20,000, (sydd tua £80,000 mewn arian heddiw) ar gyfer y glowyr – mwy nag unrhyw grŵp arall.
Ar ôl codi’r arian, fe ddaeth criw o’r LGSM i Gwm Dulais ac mae Jonathan yn cofio yr ansicrwydd am ba fath o groeso fyddai yn eu disgwyl:
"Roedden ni'n nerfus iawn - beth oedden ni'n gwneud yma? Oedd o’n wirion?" meddai.
"A dwi'n cofio ni’n cerdded i mewn i ddistawrwydd... A dechreuodd rhywun glapio, ac yna roedd yr ystafell gyfan yn cymeradwyo. Roedd o’n anhygoel. Roedd o fel ein bod ni adref.
“Roedden ni'n teimlo fel ein bod ni'n cael ein croesawu â breichiau agored, roedd o’n rhyfeddol. A doedd dim un ohonom ni’n ei ddisgwyl."
Yn y rhaglen, bydd Siân hefyd yn derbyn gwobr arbennig i gydnabod ei chyfraniad oes i’r gymuned LHDTC+.
Mae'r raglen sy'n cael ei chyflwyno gan Owain Williams, i’w gweld ar S4C am 21.00 ar nos Sul 11 Chwefror.