Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio 10/02/2024
Bae Colwyn v Barri

Mae ail ran y tymor wedi dechrau a gyda naw gêm yn weddill mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

Mae’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir ar y copa ac yn edrych yn bur debygol o sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn olynol a chodi’r tlws am yr 16eg tro yn eu hanes.

Wedi hynny, mae Cei Connah 10 pwynt yn glir o’r Bala yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop.

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.

Y Chwech Uchaf

Met Caerdydd (4ydd) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Y trydydd safle ydi’r targed realistig i’r ddau glwb yma yn y gobaith o hawlio safle awtomatig yn Ewrop.

Mae Met Caerdydd yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers 2019, tra bod Caernarfon yn ysu am gael blas ar bêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed.

Mae Met Caerdydd yn dechrau’r penwythnos driphwynt y tu ôl i’r Bala wedi eu gêm gyfartal ar Faes Tegid ddydd Sadwrn diwethaf, gyda Caernarfon driphwynt arall y tu ôl i’r myfyrwyr.

Ar ôl rhediad o saith buddugoliaeth mewn wyth gêm rhwng Hydref a Rhagfyr mae Met Caerdydd wedi arafu’n ddiweddar ac heb ennill dim un o’u chwe gêm ddiwethaf.

Fel Met Caerdydd, dechreuodd Caernarfon ail ran y tymor gyda pwynt da oddi cartref yn erbyn Cei Connah, a dyw’r Cofis ond wedi colli un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref (2-1 vs YSN).

Roedd Caernarfon wedi ennill wyth gêm yn olynol yn erbyn Met Caerdydd cyn i’r timau gael gêm gyfartal 2-2 ar Gampws Cyncoed fis diwethaf yn y gêm gynghrair olaf cyn yr hollt.

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ➖➖❌➖❌

Caernarfon: ➖➖✅❌❌

Y Drenewydd (5ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Chafodd Scott Ruscoe fedydd tân yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Y Drenewydd nos Fawrth gan i’r Robiniaid golli 3-0 yn erbyn ei gyn-glwb Y Seintiau Newydd. 

Ac ar ôl wynebu’r clwb ar y copa, y dasg nesaf yw herio’r tîm sy’n ail yn y tabl cyn croesawu’r Bala (3ydd) yn eu gêm gynghrair ganlynol.

Felly mae’n gaddo i fod yn gyfnod anodd i’r Drenewydd sydd eisoes wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Medi-Hydref 2016.

Bydd Cei Connah yn siomedig o fod wedi gollwng pwyntiau gartref yn erbyn Caernarfon y penwythnos diwethaf a bydd Neil Gibson yn mynnu triphwynt ddydd Sadwrn i gamu’n nes at y wobr Ewropeaidd.

Y Nomadiaid fydd y ffefrynnau ar Barc Latham ar ôl colli dim ond un o’u 18 gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd (ennill 13, cyfartal 4).

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ❌❌❌❌❌

Cei Connah: ➖✅❌✅✅

Y Chwech Isaf

Pen-y-bont (7fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (Yn fyw arlein)

Mae Pen-y-bont wedi codi i’r 7fed safle ar ôl curo Bae Colwyn y penwythnos diwethaf, a bydd tîm Rhys Griffiths yn benderfynol o ddal eu tir ar frig y Chwech Isaf er mwyn cael cystadlu am le’n Ewrop ar ddiwedd y tymor. 

Mae Pen-y-bont wedi apelio yn erbyn eu cosb o driphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys yn rhan gynta’r tymor, felly mae siawns y bydd y clwb yn adennill y triphwynt hynny pe bae eu hapêl yn llwyddiannus.

Roedd hi’n ganlyniad siomedig i Jonathan Jones yn ei gêm gyntaf wrth y llyw i’r Barri brynhawn Sadwrn diwethaf, yn colli 3-0 gartref yn erbyn Pontypridd oedd ar waelod y tabl.

Mae’r Dreigiau’n dechrau’r penwythnos saith pwynt yn glir o’r ddau isaf ond bydd rhaid i’r Barri fod yn wyliadwrus rhag llithro i mewn i drafferthion tua’r gwaelod.

Byddai buddugoliaeth i’r Barri ddydd Sadwrn yn eu gadael ond dau bwynt y tu ôl i Ben-y-bont yn y ras am y 7fed safle felly mae’n ornest allweddol i griw Parc Jenner.

Ond mae Pen-y-bont ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 3), gan lwyddo i gadw llechen lân mewn chwech allan o’r wyth gêm.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ✅❌✅✅❌

Y Barri: ❌✅✅➖❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.