![Llety Seren](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/Screenshot%202024-02-08%20at%2006.47.27.png?itok=ZdBYItWx)
'Y gyntaf o'i bath': Cyhoeddi enw uned iechyd meddwl newydd i famau â babanod
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi enw uned iechyd meddwl newydd “cyntaf o’i bath” ar gyfer mamau â babanod yn y gogledd.
Bydd uned Llety Seren, sy'n agor ar gyrion Sir Gaer, yn ganolfan i famau newydd wrth iddyn nhw fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl mamol megis iselder ôl-enedigol, seicosis neu gyflyrau iechyd meddwl eraill sydd eisoes yn bodoli.
Mae’r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar yr adeilad unllawr gwerth £7.5 miliwn ers mis Tachwedd y llynedd. Mae disgwyl i Llety Seren agor y gaeaf nesaf.
Fe gafodd enw’r uned ei ddewis gan famau sydd wedi profi salwch meddwl, gan gynrychioli “gobaith a phositifrwydd” i’r rheiny sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth.
Dywedodd Sarah Deardon, sydd wedi profi anawsterau iechyd meddwl wedi genededigaeth ei baban, ei bod yn hollbwysig bod uned o’r fath ar gael i famau yn leol.
“Ar ôl cael fy nerbyn i uned a oedd yn bell iawn oddi cartref yn y gorffennol, mae'n arbennig o gyffrous gweld yr uned newydd fel y mae heddiw a gwybod bod ein syniadau a'n dyluniadau'n cael eu rhoi ar waith.
“Mae unedau fel y rhain yn cael effaith enfawr drwy gadw babanod a’u mamau gyda’i gilydd yn ystod adeg dyngedfennol,” meddai.
![Llety Seren](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/Screenshot%202024-02-08%20at%2006.47.27.png?itok=ZdBYItWx)
‘Amgylchedd therapiwtig’
Fe fydd canolfan hyfforddi segur yn cael ei thrawsnewid yn uned arbenigol gydag wyth gwely newydd ar gyfer mamau a babanod amenedigol a'u teuluoedd.
Mae'r uned newydd yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Partneriaeth Swydd Gaer a Chilgwri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Mersi, GIG Lloegr a GIG Cymru.
Ar ôl agor, bydd yr uned yn gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol rhanbarthol sydd eisoes yn gofalu am filoedd o ferched bob blwyddyn.
Dywedodd Dr Alberto Salmoiraghi, cyfarwyddwr meddygol ar gyfer Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym wrth ein boddau y bydd Llety Seren yn galluogi i ofal arbenigol o ansawdd uchel gael ei roi i famau newydd a merched beichiog ar draws Gogledd Cymru, Sir Gaer, Cilgwri a Glannau Mersi mewn amgylchedd pwrpasol sy’n canolbwyntio ar adfer.
“Ar hyn o bryd, caiff y cymorth arbenigol hyn ei gynnig i ferched o Ogledd Cymru mewn cyfleusterau sydd mor bell i ffwrdd â Manceinion, Chorley a Birmingham.”
“Mae merched o Ogledd Cymru sydd â phrofiad byw o salwch meddwl amenedigol wedi chwarae rôl ganolog wrth ddylunio’r gwasanaeth newydd hwn ac rydym yn falch iawn o weld fod hyn yn cael ei adlewyrchu yn enw’r uned.
Bydd Llety Seren yn gartref oddi cartref i ferched a’u babanod a bydd yn cynnwys meithrinfa, ystafell synhwyraidd a sawl lolfa i gefnogi amser tawel ac ymweliadau gan deulu.