Y frech goch: Prif Swyddog Meddygol yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu
Y frech goch: Prif Swyddog Meddygol yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu
Mae'n ymddangos nad ydy o'n afiechyd y gorffennol. Er bod modd brechu plant yn erbyn y frech goch nid pob plentyn sy'n cael y ddau ddos o'r brechlyn MMR.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn dechrau gweld effaith hynny.
We had one outbreak in Cardiff just before Christmas. I think around eight children were affected a small number, we got on top of it. Public Health Wales and the public health protection team got around those cases and made sure that children were vaccinated.
It tends to be more deprived areas where vaccination coverage is lower, and I'm particularly worried about rates in parts of Cardiff and Newport. There are other areas in Wales where the rates are really high.
O ran brechu, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gosod targed o 95%. O fynd yn is na hynny, mae'n fwy anodd gwarchod cymunedau.
Ar hyn o bryd tua 90% o blant Cymru sy'n cael y pigiad. O holi rhieni yng Nghaerdydd roedd gan un wraig hanes go ddifrifol.
Mae gen i nith yn Llundain. Bu bron iddi farw pan o'dd hi'n flwydd oed am bod hi wedi bod o amgylch plentyn hyn oedd heb gael y pigiad. Daliodd hi'r frech goch, buodd hi'n sâl ofnadwy. Mae'n hollbwysig.
Ydy'ch plant chi wedi cael yr MMR? Maen nhw 'di cael y brechiad. Sut dach chi'n teimlo o glywed nad ydy pawb yn ei roi? Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn poeni bydd y frech goch yn dod yn ôl.
Ar ddiwedd y dydd, mae o i fyny i rieni wneud y penderfyniad. Mae'r wybodaeth allan yna, y cwbl all pobl neud ydy rhoi'r wybodaeth fel bod pobl yn gwneud penderfyniad sydd orau i'w plant.
Mae'r salwch yn ofnadwy. O'n i'n nyrso blynyddoedd nôl a mae e'n gallu bod yn ddifrifol. Mae'n hollbwysig i blant gael eu brechu.
Yn anffodus, mae'r frech goch yn gallu arwain at sgil-effeithiau fel meningitis a niwmonia sy'n gallu peryglu bywyd. Dyna lle mae'r brechlyn mor ddefnyddiol. Mae mor effeithiol o ran arbed y frech goch i ddechrau.
Fe fydd y Byrddau Iechyd yn cysylltu ag ysgolion er mwyn brechu rhagor o ddisgyblion rhwng nawr a gwyliau'r haf. Y
dy hon 'di cael y jabs? Odi, maen nhw wedi'u brechu i gyd.
A'r neges lle bo modd brechu, bod angen gwneud hynny.