Cannoedd o ffermwyr yn cyfarfod i drafod dyfodol amaeth
Cannoedd o ffermwyr yn cyfarfod i drafod dyfodol amaeth
Food security isn't even on the National Assembly's agenda.
Rodd Mart y Trallwng yn orlawn gyda mil o ffermwyr o Gymru a thu hwnt. Ond nid prynu stoc oedd pwrpas yr ymweliad ond i leisio'u hanfodlonrwydd a'u dicter tuag at bolisïau Llywodraeth Cymru.
Trio cael cymaint o bobl a ni'n gallu i gyfarfod fel hyn a dangos bod ni yn erbyn popeth mae Llywodraeth Cymru am wneud.
Maen nhw'n trio gwneud popeth yn anodd i ffermwyr. Ni'n gorfod plano am y dyfodol a dim yn gwybod pa ffordd i droi. Mae eisiau nhw ailystyried yr NVZ. Mae'r gost i gyd ar y ffermwyr a dydyn nhw ddim wedi cynnig grantiau. Wedyn, y busnes plannu coed a tyfu cropiau. Fferm ucheldir sydd efo ni a dyw hi ddim yn bosibl.
Roedd cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a fydd yn disodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd ymhlith rhai o'r prif bryderon a gododd yn y cyfarfod. Ynghyd a rheolau newydd o leihau lefelau llygredd mewn afonydd a phryderon am y diciâu.
Ond nid ffermwyr Cymru yn unig sy'n anhapus. Yn ystod yr wythnos, mae gwrthdaro ffyrnig wedi bod ym Mrwsel a phrotestiadau yn Ffrainc wrth i ffermwyr Ewrop godi llais.
Yr un yw'r gwyn nad yw'r gwleidyddion yn deall ffermio fel diwydiant.
Ac yn ôl Cadeirydd y cyfarfod yn y Trallwng neithiwr mae ffermwyr Cymru yn ystyried gweithredu.
Ni wedi dechrau'r olwyn i droi ac mae'n rhaid i'r trefnwyr cadw'r momentwm ymlaen. Maen nhw'n edrych at fynd lawr i'r Senedd yn y dyfodol. Tan gewn ni gonsesiwn positif allan o'r Senedd. Rhaid i ni fod yn heddychlon a mynd lawr yna a neud statements cryf.
Ac mae Aelod Senedd Geidwadol hefyd yn galw ar y Gweinidog Materion Gwledig i wneud mwy.
Mae'n rhaid i ni eistedd lawr fel diwydiant, fel mab ffarmwr gyda'r Weinidog a'r Llywodraeth i ddod a pholisi sy'n mynd i weithio. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim y cael y geiriau cywir o'r Llywodraeth na'r polisïau cywir a dw i'n becso beth gall digwydd yn y dyfodol.
Doedd neb o Lywodraeth Cymru ar gael i ymateb ar gamera. Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod eu hymrwymiad i'r sector ar yr adeg heriol hon yn glir iawn a'u bod wedi diogelu cyllideb o £238 miliwn ar gyfer eleni trwy gynllun y Taliad Sylfaenol.
Ond mae ffermwyr yn dweud bod rhaid i bethau newid nawr.
Ar ddechrau mis Chwefror oer felly mae'r tensiynau'n amlwg ac arwydd clir fod pethau'n poethi.