Rhybudd melyn am eira i'r gogledd a'r canolbarth
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira yn y gogledd a’r canolbarth.
Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 03.00 ddydd Iau hyd at 03.00 ddydd Gwener.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai’r eira effeithio ar drafnidiaeth gan achosi oedi ar rai ffyrdd.
Mae 'na hefyd berygl y gallai rhai pentrefi golli cyflenwadau trydan am gyfnodau gan hefyd effeithio ar wasanaethau ffonau symudol.
Fe allai hyd at 10-20cm o eira gwympo ar dir uchel, gyda disgwyl oddeutu 2-5cm i’r mwyafrif sy’n cael eu heffeithio.
Mae posibilrwydd y gallai’r eira ymledu y tu hwnt i’r canolbarth tuag at y de, ac fe allai’r eira droi i law neu eirlaw yn ystod dydd Iau.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i gynllunio unrhyw deithiau o flaen llaw, gan baratoi eu cerbydau gyda dillad twym, cyflenwad o fwyd a nwyddau eraill rhag iddynt fynd yn sownd yn yr eira.
Mae'r rhybudd melyn am eira ar gyfer y siroedd canlynol:
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Powys
Wrecsam