Newyddion S4C

Bygythiadau ‘milain’ arlein bellach yn niweidio democratiaeth meddai Aelod Seneddol

04/02/2024
fay jones.png

Mae bygythiadau ar-lein, gan gynnwys bygythiadau o drais rhywiol yn erbyn menywod, bellach yn niweidio democratiaeth meddai aelod seneddol.

Daw sylwadau Fay Jones, Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi i’r gweinidog cyfiawnder Mike Freer ddweud y bydd yn camu o’r neilltu oherwydd bygythiadau i’w fywyd.

“Mae’r amgylchedd wedi mynd yn filain iawn ar-lein,” meddai Fay Jones wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales.

“Mae yna achlysuron wedi bod pan fu angen i mi ofyn i'r heddlu ymyrryd ar un bygythiad penodol yn erbyn fy mywyd.

“Ond mae arna i ofn bod y cam-drin a'r aflonyddu neu'r bwlio ar-lein yn eithaf cyson ac i’w ddisgwyl erbyn hyn.”

Dywedodd mai’r peth cyntaf oedd menywod yn ei grybwyll wrth ystyried sefyll i fod yn aelodau o’r senedd neu’n gynghorwyr oedd eu bod nhw’n ofni'r sylwadau ar-lein.

“Mae'n ymestyn o alw menywod yn dew a hyll i fygythiadau o drais rhywiol, ac mae'n rhaid rhoi’r gorau iddi,” meddai.

“Dwi’n cofio cael fy syfrdanu ar y cychwyn cyntaf gan rai o’r pethau oedd pobl yn ei yrru ata i ar-lein. Erbyn hyn mae llawer o hynny'n golchi i ffwrdd.

“A dw i’n meddwl, os oes unrhyw un allan yna sy'n euog o hyn, yn dweud wrth eu haelod seneddol eu bod yn fuwch salw neu bethau eraill nad ydw i’n gallu eu hailadrodd yr adeg yma o'r bore, yna mi yda chi'n rhan o'r broblem.”

‘Rhy hawdd’

Roedd tad Fay Jones, Gwilym Jones, yn Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd ond dywedodd hi fod y cam-drin arlein yn waeth erbyn hyn oherwydd y cyfryngau cymdeithasol.

“Rwy'n meddwl ei fod yn newydd,” meddai Fay Jones.

“Mae'n rhywbeth y mae Dad a minnau wedi siarad amdano a oedd yn amlwg roedd wedi cael ei gyfran deg o feirniadaeth.

“Ond dydw i ddim yn cofio achosion penodol o unrhyw beth peryglus, er fy mod i'n gwybod bod ganddo rai etholwyr anodd i ddelio â nhw. 

“Ond roedd hynny cyn cyfryngau cymdeithasol ac e-bost. Roedd hynny cyn i ni ei wneud yn hynod o hawdd cysylltu â'ch Aelod Seneddol.

“Mae wedi dod mor hawdd a dylai fod yn hawdd siarad â'ch Aelod Seneddol. Ond rwy'n meddwl weithiau ein bod ni'n gwneud ein hunain ychydig yn rhy hawdd cysylltu â ni.

“Rydw i ar dair llwyfan cyfryngau cymdeithasol gwahanol. 

“Dwi’n meddwl bod hynny'n rhan bwysig o fy swydd i fod yn hygyrch i bobl ond mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i mi adael i bobl ddod i mewn i fy mywyd mewn ffordd na ddylwn i, efallai."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.