Newyddion S4C

Cymru'n colli i'r Alban yng Nghaerdydd

03/02/2024
Cymru v Yr Alban

Colli fu hanes Cymru o drwch blewyn yn erbyn Yr Alban o 26-27 yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn ail hanner cyffrous iawn.

Yr Alban oedd y ffefrynnau cyn y gêm wrth iddyn nhw chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghaerdydd ers 22 mlynedd.

Yr Alban ddechreuodd y gêm yn fwy pwrpasol gyda’r maswr a’r capten Finn Russell yn gosod yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb ar ôl i Gymru droseddi ar ôl chwe munud.

Gyda Chymru’n ildio ciciau cosb rhoddodd hyn gyfle i’r Alban ymosod i mewn i’r 22 ond tro’r ymwelwyr oedd hi i ildio gan adael y tîm cartref i glirio.

Fe aeth Yr Alban ymhellach ar y blaen ar ôl 10 munud wrth i’r Alban groesi am gais i’r prop Pierre Schoeman gyda Russell yn trosi o flaen y pyst. Cymru 0-10 Yr Alban.

Daeth ail gic gosb i Russell ar ôl 22 munud pan daflodd asgellwr Cymru Josh Adams y bêl i’r dorf er mwyn atal Yr Alban rhag cymryd lein yn gyflym. Cymru 0-13 Yr Alban.

Fe sgoriodd yr Alban ail gais ar ôl 30 munud wrth i'r asgellwr Duhan van der Merwe groesi gyda Russell yn trosi. Cymru 0-20 Yr Alban.

Roedd chwarae Cymru’n ddi-siâp, ddifflach a diddychymyg ac yn llawn camsyniadau yn ystod yr hanner awr gyntaf gyda Russell yn maestroli dros Yr Alban.

Cafodd Cymru gyfle i daro nôl gyda lein o fewn pum metr i linell gais Yr Alban ond gwnaed smonach ohoni gan ildio'r bêl i'r gwrthwynebwyr unwaith yn rhagor.

Y sgôr ar yr egwyl: Cymru 0-20 Yr Alban.

Newidiadau

Roedd angen fflach o ysbrydoliaeth ar Gymru yn gynnar yn yr ail hanner os am unrhyw obaith o adfer y sefyllfa.

Fe ddaeth y mewnwr Tomos Williams ymlaen i'r cae yn lle Gareth Davies i gychwyn yr hanner ac roedd Ioan Lloyd yn safle'r maswr oherwydd anaf i Sam Costelow.

Ond trychineb i Gymru unwaith eto wrth i van der Merwe sgorio ei ail gais yn dilyn rhediad o 50 metr.

Fe drosodd Russell unwaith eto i wneud pethau i edrych yn ddisglair i'r Alban ond yn dywyll iawn i Gymru. Cymru 0-27 Yr Alban.

Fe ddaeth llygedyn bach o obaith i Gymru wrth i'r blaenasgellwr James Botham groesi am gais yn dilyn hyrddiad gan y blaenwyr ar ôl 47 munud.

Methodd Lloyd gyda'r trosiad ond fe aeth Yr Alban i lawr i 14 dyn wrth i'r bachwr George Turner dderbyn cerdyn melyn yn y symudiad. Cymru 5-27 Yr Alban.

Fe godwyd gobeithion ac ysbryd y dorf eto wrth i'r asgellwr Rio Dyer groesi yn llydan. Fe drosodd Lloyd o'r ystlys. Cymru 12-27 Yr Alban.

Gyda'r momentwm nawr yn llifo i Gymru cafwyd cyfnod o bwysau ar linell gais Yr Alban. 

Fe ildiodd Yr Alban gerdyn melyn arall ac fe groesodd yr wythwr Aaron Wainwright o dan y pyst. 

Fe drosodd Lloyd eto. Cymru 19-27, a tybed a oedd gobaith am fuddugoliaeth hollol annisgwyl?

Gyda'r dorf ar eu traed roedd Cymru yn ymosod dro ar ôl tro gyda'r Alban ar chwâl erbyn hyn gyda digon o amser ar ôl ar y cloc.

Yng nghanol golygfeydd anhygoel fe groesodd Cymru am bedwerydd cais a phwynt bonws gan yr eilydd Alex Mann. 

Fe drosodd Lloyd eto i ddod â Chymru o fewn pwynt wrth i'r dorf ganu'n groch. Cymru 26-27 Yr Alban.

Ond fe lwyddodd Yr Alban i gadw'r flaenoriaeth tan y chwiban olaf.

Y sgôr terfynol: Cymru 26-27 Yr Alban ac er colli fe lwyddodd Cymru i gipio dau bwynt bonws.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.